Adran 2 – Uchafswm y ffioedd
5.Mae is-adran (1) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol weithredu yn unol â rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (2) wrth iddynt ystyried beth yw ffi resymol am wasanaeth y caniateir codi ffi amdano.
6.Mae is-adran (2) yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n rheoli'r hyn yw ffi resymol neu'n cyfyngu arni. Mae is-adran (3) yn rhoi enghreifftiau o'r math o ddarpariaeth y caniateir ei chynnwys mewn rheoliadau a wneir o dan yr adran hon. Mae'n cynnwys darpariaeth sy'n pennu'r uchafswm y caiff awdurdod lleol ei godi am wasanaeth penodol y caniateir codi ffi amdano neu am unrhyw gyfuniad o wasanaethau y caniateir codi ffi amdanynt a darpariaeth sy'n cadarnhau uchafswm ffi fesul awr neu fesul wythnos.