RHAGYMADRODD
1.Mae'r Nodiadau Esboniadol hyn yn ymwneud â'r Mesur Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Cymru) a gafodd ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 19 Ionawr 2010 a’i gymeradwyo gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor ar 17 Mawrth 2010. Cawsant eu paratoi gan Cyfarwyddiaeth Gyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Llywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn cynorthwyo darllenydd y Mesur. Dylid darllen y Nodiadau Esboniadol ar y cyd â'r Mesur ond nid ydynt yn rhan ohono.
2.Mae'r Mesur yn gwneud darpariaeth ynghylch codi ffioedd gan awdurdodau lleol am wasanaethau gofal cymdeithasol dibreswyl. Gellir gweld cymhwysedd y Cynulliad i ddeddfu ar y mater hwn ym mater 15.1 ym Maes 15 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) (“GOWA 2006”). Mewnosodwyd mater 15.1 gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Lles Cymdeithasol) 2008 ar 9 Gorffennaf 2008 ac (fel y’i diwygiwyd) mae'n caniatáu i'r Cynulliad ddarparu ynghylch:
“Ffioedd a godir gan awdurdodau lleol am wasanaethau gofal cymdeithasol a ddarperir neu a sicrheir ganddynt a thaliadau ar gyfer unigolion ag anghenion sy'n ymwneud â'u lles fel bod modd iddynt hwy, neu i unrhyw berson arall, sicrhau gwasanaethau gofal cymdeithasol i ddiwallu'r anghenion hynny.”