Search Legislation

Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010

Newidiadau dros amser i: Croes Bennawd: Tramgwyddau, achosion troseddol a chosbau penodedig

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, Croes Bennawd: Tramgwyddau, achosion troseddol a chosbau penodedig. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Tramgwyddau, achosion troseddol a chosbau penodedigLL+C

46Y tramgwydd o wneud datganiad anwir neu gamarweiniolLL+C

(1)Mae person yn cyflawni tramgwydd os yw, mewn cais i gofrestru o dan y Rhan hon, yn gwneud datganiad y mae'n gwybod ei fod yn anwir neu'n gamarweiniol mewn manylyn perthnasol.

(2)Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan is-adran (1) yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 46 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I2A. 46 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

47Hysbysiadau o gosbLL+C

(1)Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod person wedi cyflawni tramgwydd cosb benodedig, cânt roi i'r person hysbysiad o gosb o ran y tramgwydd.

(2)Tramgwydd cosb benodedig yw unrhyw dramgwydd perthnasol a ragnodwyd at ddibenion yr adran hon.

(3)Tramgwydd perthnasol yw tramgwydd o dan y Rhan hon neu o dan reoliadau a wneir o dan y Rhan hon.

(4)Hysbysiad o gosb yw hysbysiad sy'n cynnig cyfle i'r person fodloni unrhyw atebolrwydd i gollfarn am y tramgwydd y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef drwy dalu cosb yn unol â'r hysbysiad.

(5)Os yw person yn cael hysbysiad o gosb, ni cheir codi achos am y tramgwydd y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef cyn diwedd y cyfryw gyfnod ag a ragnodir.

(6)Os yw person yn cael hysbysiad o gosb, ni ellir collfarnu'r person o'r tramgwydd y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef os yw'r person yn talu'r gosb yn unol â'r hysbysiad.

(7)Mae cosbau o dan yr adran hon yn daladwy i Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 47 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I4A. 47 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

48Hysbysiadau o gosb: darpariaethau atodolLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth am unrhyw un neu unrhyw rai o'r canlynol—

(a)ffurf a chynnwys yr hysbysiadau o gosb;

(b)swm ariannol y gosb ac erbyn pa bryd y mae i'w thalu;

(c)penderfynu'r dulliau y gellir talu cosbau drwyddynt;

(d)y cofnodion sydd i'w cadw o ran hysbysiadau o gosb;

(e)tynnu hysbysiad o gosb yn ôl, mewn amgylchiadau a ragnodwyd, gan gynnwys—

(i)ad-dalu unrhyw swm a dalwyd am gosb o dan hysbysiad o gosb a dynnir yn ôl, a

(ii)gwahardd codi achos cyfreithiol neu barhau ag ef am y tramgwydd y mae'r hysbysiad a dynnir yn ôl yn ymwneud ag ef;

(f)tystysgrifau sydd i'w derbyn yn dystiolaeth—

(i)sy'n honni eu bod wedi'u llofnodi gan neu ar ran person a ragnodwyd, a

(ii)sy'n datgan bod taliad o unrhyw swm a dalwyd am gosb wedi dod i law neu, yn ôl y digwydd, heb ddod i law ar ddyddiad a bennir yn y dystysgrif neu cyn y dyddiad hwnnw;

(g)camau sydd i'w cymryd os na thelir cosb yn unol â hysbysiad o gosb;

(h)unrhyw beth arall o ran cosbau neu hysbysiadau o gosb y mae Gweinidogion Cymru o'r farn eu bod yn angenrheidiol neu'n hwylus.

(2)O ran rheoliadau o dan is-adran (1)(b)—

(a)cânt ddarparu ar gyfer cosbau o symiau gwahanol i fod yn daladwy mewn achosion gwahanol, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer y gosb sy'n daladwy o dan hysbysiad o gosb i wahaniaethu yn unol â'r amser erbyn pryd y telir hi, ond

(b)rhaid iddynt sicrhau nad yw swm unrhyw gosb sy'n daladwy o ran unrhyw dramgwydd yn fwy nag un hanner mwyafswm y ddirwy y byddai person sy'n cyflawni tramgwydd yn atebol amdani ar gollfarn ddiannod[F1neu, pan na fo mwyafswm o’r fath, nad yw’n fwy na’r swm sy’n cyfateb i lefel 4 ar y raddfa safonol ar gyfer tramgwyddau diannod].

(3)Yn yr adran hon—

  • ystyr “cosb” yw cosb o dan hysbysiad o gosb;

  • mae i “hysbysiad o gosb” yr ystyr a roddir gan adran 47.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 48 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I6A. 48 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

49Terfyn amser ar gyfer achosionLL+C

(1)Ceir dwyn achos am dramgwydd o dan y Rhan hon neu o dan reoliadau a wneir oddi tani o fewn cyfnod o flwyddyn o'r dyddiad pan ddaw'r erlynydd i wybod am dystiolaeth ddigonol ym marn yr erlynydd i warantu'r achos.

(2)Ni chaniateir cychwyn unrhyw achos o'r fath yn rhinwedd rheoliad (1) fwy na thair blynedd ar ôl i'r tramgwydd gael ei gyflawni.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 49 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I8A. 49 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

50Tramgwyddau gan gyrff corfforaetholLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os cyflawnir unrhyw dramgwydd o dan y Rhan hon gan gorff corfforaethol.

(2)Os profir bod y tramgwydd wedi cael ei gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi'i briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran, unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, neu swyddog arall tebyg yn y corff corfforaethol, neu unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swyddogaeth o'r fath, bydd y person hwnnw (yn ogystal â'r corff corfforaethol) yn euog o'r tramgwydd a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 50 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I10A. 50 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

51Cymdeithasau anghorfforedigLL+C

(1)Rhaid i achos am dramgwydd o dan y Rhan hon yr honnir iddo cael ei gyflawni gan gymdeithas anghorfforedig gael ei ddwyn yn enw'r gymdeithas (ac nid yn enw unrhyw un neu unrhyw rai o'i haelodau).

(2)At ddibenion unrhyw achosion o'r fath, mae rheolau'r llys ynghylch cyflwyno dogfennau i gael effaith fel pe bai'r gymdeithas yn gorff corfforaethol.

(3)Mewn achos am dramgwydd o dan y Rhan hon sy'n cael ei ddwyn yn erbyn cymdeithas anghorfforedig, mae adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925 (p. 86) ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p. 43) yn gymwys fel y maent mewn perthynas â chorff corfforaethol.

(4)Mae dirwy a osodir ar gymdeithas anghorfforedig pan gollfernir hi o dramgwydd o dan y Rhan hon i'w thalu allan o gronfeydd y gymdeithas.

(5)Os dangosir bod tramgwydd o dan y Rhan hon gan gymdeithas anghorfforedig—

(a)wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad un o swyddogion y gymdeithas neu aelod o'i chorff llywodraethu, neu

(b)i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran y cyfryw swyddog neu aelod,

mae'r swyddog neu'r aelod hwnnw yn ogystal â'r gymdeithas yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i gael ei erlyn ac i gael ei gosbi yn unol â hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 51 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 75(3)

I12A. 51 mewn grym ar 1.4.2011 gan O.S. 2010/2582, ergl. 2, Atod. 1 (ynghyd ag Atod. 2, Atod. 3)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Assembly Government department responsible for the subject matter of the Measure to explain what the Measure sets out to achieve and to make the Measure accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Measures of the National Assembly for Wales.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources