Adran 61 Sefydlu byrddau integredig cymorth i deuluoedd
126.Mae adran 61 yn gosod dyletswydd ar bob awdurdod lleol i sefydlu Bwrdd Integredig Cymorth i Deuluoedd ar gyfer ei ardal. Mae adran 58(4) yn ei gwneud yn ofynnol i TICD gyflawni ei swyddogaethau o dan gyfarwyddyd ei fwrdd. Rhaid i'r bwrdd gynnwys:
cyfarwyddwr y gwasanaethau cymdeithasol;
cyfarwyddwr arweiniol statudol y gwasanaethau plant a phobl ifanc (o dan a.27 o Ddeddf Plant 2004 (p 21)) os nad ef yw'r cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol;
y swyddog arweiniol dros wasanaethau plant a phobl ifanc o'r Bwrdd Iechyd Lleol.
127.Mae'r darpariaethau yn galluogi awdurdodau lleol i gyfethol aelodau eraill i'r Bwrdd gyda chydsyniad y Bwrdd Iechyd Lleol ac i dalu taliadau a lwfansau i aelodau cyfetholedig a benodir o dan is-adran (5).