Adran 4: Strategaethau a lunnir gan awdurdodau lleol (awdurdodau gwasanaethau plant)
19.Mae adran 4 yn diwygio adran 26 o Ddeddf Plant 2004 (“Deddf 2004”) fel bod, yn achos awdurdod lleol, y ddyletswydd i gael strategaeth tlodi plant wedi ei chysylltu â’r ddyletswydd bresennol o dan yr adran honno i baratoi cynllun sy’n dweud, yn fwy cyffredinol, sut y bydd cyflawni ei swyddogaethau mewn perthynas â phlant a phobl ifanc. Mae is-adran (1) yn darparu y gellir cyflawni dyletswydd yr awdurdod lleol i gyhoeddi strategaeth drwy gyhoeddi cynllun o dan adran 26 o Ddeddf 2004. Mae'r ddyletswydd bresennol wedi ei diwygio gan is-adran (3) fel bod rhaid i awdurdod lleol gynnwys yn ei gynllun ei strategaeth i gyfrannu at ddileu tlodi plant yng Nghymru o dan is-adran 2(1) o’r Mesur.
20.Yn ogystal â'i strategaeth tlodi plant ei hunan, caiff awdurdod lleol gynnwys hefyd strategaethau tlodi plant awdurdodau Cymreig eraill y gwnaeth drefniant â hwy o dan adran 25 o Ddeddf 2004. Yn hyn o beth, gweler hefyd adran 5(4) a 5(5) sy’n darparu, os yw strategaeth tlodi plant awdurdod Cymreig arall wedi ei hymgorffori yng nghynllun yr awdurdod lleol o dan Ddeddf 2004, fod dyletswydd yr awdurdod lleol o dan adran 2 o’r Mesur oherwydd hynny wedi ei chyflawni.