Cyflwyniad
1.Mae'r Nodiadau Esboniadol hyn ar gyfer y Mesur arfaethedig ynghylch Plant a Theuluoedd (Cymru) a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 10 Tachwedd 2009 ac a gymeradwywyd gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor ar 10 Chwefror 2010. Maent wedi eu paratoi gan Adran Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, Adran Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes a Sgiliau ac Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cynulliad Cymru i gynorthwyo’r darllenydd i ddeall y Mesur. Nid ydynt yn rhan o'r Mesur ac nid ydynt wedi eu hawdurdodi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
2.Dylid darllen y Nodiadau Esboniadol ar y cyd â’r Mesur. Ni fwriedir iddynt fod yn ddisgrifiad cynhwysfawr o’r Mesur. Felly, pan na fo’n ymddangos bod angen i unrhyw adran, neu ran o adran gael ei hesbonio, ni roddir esboniad.
Mae pedair rhan i'r Mesur, sef:
Rhan 1: Tlodi Plant, Chwarae a Chyfranogi
Rhan 2: Gwarchod Plant a Gofal Dydd ar gyfer Plant
Rhan 3: Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd
Rhan 4: Amrywiol a Chyffredinol
Caiff pob Rhan ei hesbonio yn ei thro isod.