Search Legislation

Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009, RHAN 3 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 15 Mai 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to the whole Measure associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Measure (including any effects on those provisions):

RHAN 3LL+CCYFFREDINOL

48CanllawiauLL+C

(1)Mae'r adran hon yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan y Mesur hwn.

(2)O ran Gweinidogion Cymru—

(a)cânt ddyroddi canllawiau o dan Ran 1 i awdurdodau gwella Cymreig yn gyffredinol neu mewn cysylltiad â hwy neu mewn cysylltiad ag un neu fwy o awdurdodau penodol;

F1(b). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(c)cânt ddyroddi canllawiau gwahanol i wahanol awdurdodau gwella Cymreig, awdurdodau lleol neu bartneriaid cynllunio cymunedol neu mewn cysylltiad â hwy;

(d)rhaid iddynt, cyn dyroddi canllawiau, ymgynghori â'r awdurdodau neu'r partneriaid o dan sylw neu bersonau y mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn cynrychioli'r awdurdodau neu'r partneriaid hynny; ac

(e)rhaid iddynt drefnu i ganllawiau gael eu cyhoeddi.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 48 mewn grym ar 10.6.2009, gweler a. 53(1)

49CyfarwyddiadauLL+C

O ran unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru o dan y Mesur hwn—

(a)caniateir iddo gael ei amrywio neu ei ddirymu gan gyfarwyddyd diweddarach; a

(b)rhaid iddo gael ei roi mewn ysgrifen.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 49 mewn grym ar 10.6.2009, gweler a. 53(1)

50Gorchmynion a rheoliadauLL+C

(1)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(2)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer—

(a)i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer gwahanol achosion, ardaloedd, awdurdodau a disgrifiadau o awdurdod;

(b)i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol;

(c)i wneud y cyfryw ddarpariaeth gysylltiedig, atodol, canlyniadol, byrhoedlog, trosiannol neu'r cyfryw ddarpariaeth arbed ag y gwêl Gweinidogion Cymru'n dda ei gwneud.

(3)Mae offeryn statudol sy'n cynnwys gorchymyn o dan adran 8(1), 15(3), (5) neu (7), 19(3)(b) neu 51(4) neu reoliadau o dan adran 29(7) yn ddarostyngedig i ddiddymiad yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(4)Er hynny, ni fydd is-adran (3) yn gymwys os bydd offeryn hefyd yn cynnwys darpariaethau a wnaed o dan y pwerau a grybwyllir yn is-adran (5).

(5)Ni chaniateir i offeryn statudol gael ei wneud sy'n cynnwys (wrth ei hun neu ynghyd â darpariaethau eraill)—

(a)gorchymyn o dan adran 7(1),

(b)gorchymyn o dan adran 16(3),

F2(c). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(d)gorchymyn o dan adran 51(4) sy'n cynnwys darpariaeth a grybwyllir o dan is-adran (5)(b)(i) o'r adran honno,

onid oes drafft o'r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

(6)Yn ddarostyngedig i is-adran (7), ni chaniateir i offeryn statudol sy'n cynnwys gorchymyn o dan adran 31 gael ei wneud onid oes drafft o'r gorchymyn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

(7)Mae gorchymyn o dan adran 31 sydd wedi'i wneud yn unswydd i ddiwygio gorchymyn cynharach o dan yr adran honno—

(a)er mwyn estyn y gorchymyn cynharach, neu unrhyw ddarpariaeth yn y gorchymyn cynharach, i rychwantu awdurdod penodol neu awdurdodau o ddisgrifiad penodol;

(b)er mwyn i'r gorchymyn cynharach, neu unrhyw ddarpariaeth yn y gorchymyn cynharach, beidio â bod yn gymwys mwyach i awdurdod penodol neu i awdurdodau o ddisgrifiad penodol,

yn ddarostyngedig i ddiddymiad yn unol â phenderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 50 mewn grym ar 10.6.2009, gweler a. 53(1)

51Diwygiadau canlyniadol etc a darpariaeth drosiannol a darpariaeth arbedLL+C

(1)Mae Atodlen 1 yn cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol ar gyfer Rhan 1 o'r Mesur hwn.

(2)Mae Atodlen 2 yn cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol ar gyfer Rhan 2 o'r Mesur hwn.

F3(3). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(4)Caiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw ddarpariaeth drwy orchymyn y bydd Gweinidogion Cymru yn barnu ei bod yn briodol at ddibenion cyffredinol, neu unrhyw ddibenion penodol, y Mesur hwn, neu o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth a wneir drwy'r Mesur hwn, neu er mwyn rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth o'r fath.

(5)Caiff gorchymyn o dan is-adran (4) wneud y canlynol yn benodol—

(a)darparu bod unrhyw ddiwygiad neu unrhyw ddarpariaeth arall a wneir drwy'r Mesur hwn ac sy'n dod i rym cyn y bydd unrhyw ddarpariaeth arall wedi dod i rym yn cael effaith, hyd nes y bydd y ddarpariaeth arall honno wedi dod i rym, gydag addasiadau penodedig, a

(b)diwygio, diddymu neu ddirymu unrhyw ddarpariaeth mewn—

(i)unrhyw Ddeddf neu Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (gan gynnwys y Mesur hwn); a

(ii)is-ddeddfwriaeth.

(6)Mae'r diwygiadau y caniateir eu gwneud yn rhinwedd is-adran (5)(b) yn ychwanegol at y rhai a wneir neu y caniateir eu gwneud o dan unrhyw un o ddarpariaethau eraill y Mesur hwn.

(7)Yn yr adran hon mae i “is-ddeddfwriaeth” yr un ystyr â “subordinate legislation” yn Neddf Ddehongli 1978 (p. 30).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 51(4)-(7) mewn grym ar 10.6.2009, gweler a. 53(1)

I5A. 51(1) mewn grym ar 1.4.2010 gan O.S. 2009/3272, ergl. 3(1), Atod. 2 (ynghyd ag ergl. 3(2)-(5)) (as diwygio (8.9.2010) gan O.S. 2010/2237, ergl. 2)

I6A. 51(2)(3) mewn grym ar 1.1.2010 gan O.S. 2009/3272, ergl. 2, Atod. 1

52DiddymiadauLL+C

Mae Atodlen 4 yn cynnwys diddymiadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 52 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 53(2)

I8A. 52 mewn grym ar 1.1.2010 at ddibenion penodedig gan O.S. 2009/3272, ergl. 2, Atod. 1

I9A. 52 mewn grym ar 1.4.2010 at ddibenion penodedig gan O.S. 2009/3272, ergl. 3(1), Atod. 2 (ynghyd ag ergl. 3(2)-(5)) (as diwygio (8.9.2010) gan O.S. 2010/2237, ergl. 2)

53CychwynLL+C

(1)Daw adrannau 48 i 50, 51(4) i (7), 54 a'r adran hon i rym ar y diwrnod y caiff y Mesur hwn ei gymeradwyo gan ei Mawrhydi yn Ei Chyngor.

(2)Daw darpariaethau eraill y Mesur hwn i rym ar y diwrnod y bydd Gweinidogion Cymru yn ei bennu drwy orchymyn.

(3)Caiff gorchymyn o dan is-adran (2) bennu gwahanol ddiwrnodau at wahanol ddibenion.

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 53 mewn grym ar 10.6.2009, gweler a. 53(1)

54Enw byrLL+C

Enw'r Mesur hwn yw Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 54 mewn grym ar 10.6.2009, gweler a. 53(1)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Assembly Government department responsible for the subject matter of the Measure to explain what the Measure sets out to achieve and to make the Measure accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Measures of the National Assembly for Wales.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources