Adran 19 - adroddiadau archwilio ac adroddiadau asesu
37.Mae adran 19 yn gosod dyletswydd ar Archwilydd Cyffredinol Cymru i gynhyrchu adroddiad neu adroddiadau ar bob awdurdod gwella Cymreig mewn perthynas â’i ddyletswyddau o dan adrannau 17 a 18.
Dylai’r adroddiad neu’r adroddiadau:
ardystio bod yr Archwilydd Cyffredinol wedi cynnal yr archwiliad o dan adran 17;
datgan a yw’r Archwilydd Cyffredinol, o ganlyniad i’r archwiliad, yn credu bod yr awdurdod wddi cyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 15 ac wedi gweithredu yn unol â’r canllawiau;
ardystio bod yr Archwilydd Cyffredinol wedi cynnal yr asesiad o dan adran 18;
esbonio sut y mae’r Archwilydd Cyffredinol wedi defnyddio’r wybodaeth a dderbyniodd gan gyrff rheoleiddio eraill o dan adran 33 at ddibenion cynnal asesiad o’r gwelliant a wnaed gan awdurdod o dan adran 18;
datgan a yw’r Archwilydd Cyffredinol, o ganlyniad i’r asesiad, yn credu bod yr awdurdod yn debyg o gydymffurfio â gofynion Rhan 1 o’r Mesur hwn;
argymell (os yw’n briodol) unrhyw gamau y dylai’r awdurdod eu cymryd er mewn cyflawni ei ddyletswyddau neu weithredu yn unol â’r canllawiau;
argymell (os yw’n briodol) y dylai Gweinidogion Cymru roi cymorth o dan adran 29 neu gyfarwyddyd o dan adran 30; a
datgan a yw’r Archwilydd Cyffredinol yn bwriadu cynnal arolygiad arbennig o dan adran 22.
38.Dylai copïau o’r adroddiadau gael eu hanfon at yr awdurdod gwella Cymreig perthnasol ac at Weinidogion Cymru erbyn 30 Tachwedd bob blwyddyn. Caiff Gweinidogion Cymru newid y dyddiad hwn drwy orchymyn (is-adran (3)).
39.Yn ogystal â hynny, mae is-adran (4) yn delio â’r amgylchiadau hynny lle byddai’n afresymol neu’n anymarferol i’r Archwilydd Cyffredinol gyhoeddi adroddiad ar awdurdod penodol erbyn 30 Tachwedd neu, lle y gwnaed gorchymyn o dan is-adran (3), erbyn y dyddiad a bennwyd yn y gorchymyn. Mae’n rhoi i Archwilydd Cyffredinol Cymru yr hyblygrwydd i ofyn i Weinidogion Cymru am estyniad i gwblhau’r adroddiadau archwilio ac asesu ar gyfer un o’r awdurdodau a enwyd neu ragor (heb fod angen gorchymyn).
40.Caiff yr adroddiad neu’r adroddiadau o dan adran 19 gynnwys argymhellion i’r awdurdod am sut y dylai gydymffurfio â’r gofynion yn y rhan hon a’r hyn y dylai ei wneud i weithredu yn unol â’r canllawiau.