Adran 16 – Gwybodaeth am drefniadau teithio
52.Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gyhoeddi gwybodaeth ynghylch yr asesiad o dan adran 2, ynghylch y trefniadau a wneir gan yr awdurdod neu gan Weinidogion Cymru ar gyfer teithio gan ddysgwyr ac ynghylch y cod ymddygiad wrth deithio. Ar hyn o bryd, mae’n ofynnol i awdurdod lleol gyhoeddi gwybodaeth am ei bolisi cludiant mewn cysylltiad ag ysgolion o dan Reoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999. Mae rheoliad 6 yn y Rheoliadau hynny’n pennu gofynion ynghylch pryd i gyhoeddi’r wybodaeth ac ym mha ddull. Mae adran 509AA o Ddeddf Addysg 1996 yn ei gwneud yn ofynnol hefyd ar hyn o bryd i awdurdod lleol gyhoeddi datganiad polisi cludiant bob blwyddyn ar gyfer personau o ‘oedran chweched dosbarth’.
53.Mae Atodlenni 1 a 2 i’r Mesur yn diwygio ac yn diddymu darpariaethau yn adran 509AA fel na fydd yn rhaid i awdurdod lleol yng Nghymru mwyach gyhoeddi datganiad polisi cludiant ar gyfer dysgwyr oedran chweched dosbarth. Bydd rheoliadau a wneir o dan adran 16 yn disodli’r gofyniad a ddiddymwyd ac yn cysoni’r gofynion i gyhoeddi gwybodaeth ar gyfer dysgwyr o oedran chweched dosbarth â’r hyn y mae Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999 eisoes yn ei wneud yn ofynnol ar gyfer plant ysgol. Bydd hyn yn creu set unedig o ofynion.