Adran 17 – Cydweithredu: gwybodaeth a chymorth arall
54.O dan is-adran (1) mae ar gorff llywodraethu ysgol a gynhelir neu sefydliad addysg bellach ddyletswydd i gydweithredu ag awdurdod lleol. Rhaid iddo roi i’r awdurdod wybodaeth neu gymorth arall y mae ei hangen neu ei angen er mwyn i’r awdurdod lleol gyflawni ei ddyletswyddau o dan y Mesur. Mae is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol roi i’w gilydd wybodaeth neu gymorth y gallai fod yn rhesymol fod arnynt ei hangen neu ei angen er mwyn iddynt wneud asesiadau a threfniadau teithio. Bydd hyn yn sicrhau y gellir cyflawni swyddogaethau’n effeithiol pan fydd dysgwyr yn teithio rhwng awdurdodau neu pan fydd plentyn yn byw mewn dau awdurdod gwahanol.
55.O dan is-adran (3) a (4) rhaid i awdurdodau lleol a phenaethiaid gynorthwyo’i gilydd hefyd mewn perthynas â gorfodi’r cod ymddygiad wrth deithio.