- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
11. Yn lle erthygl 20 (defnyddio cerbydau i gasglu sbwriel neu wymon oddi ar draethau) rhodder—
20.—(1) Mae erthygl 4 yn gymwys i weithgaredd symud gan ddefnyddio cerbyd neu long a ymgymerir gan neu ar ran Gweinidogion Cymru, awdurdod lleol, awdurdod harbwr o fewn ei awdurdodaeth, Corff Adnoddau Naturiol Cymru neu elusen amgylcheddol at y diben o symud—
(a)sbwriel, sbwriel môr, malurion neu anifeiliaid marw oddi ar draeth neu ardal rhynglanwol, neu
(b)gêr pysgota wedi ei adael, wedi ei daflu neu wedi ei golli.
(2) Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i amodau 1 a 2.
(3) Amod 1 yw na chaiff elusen amgylcheddol symud anifail marw oni bai ei bod yn gweithredu ar ran Gweinidogion Cymru, Corff Adnoddau Naturiol Cymru neu awdurdod lleol.
(4) Amod 2 yw bod hysbysiad o’r bwriad i symud anifail marw yn cael ei roi i’r awdurdod gorfodi cyn i’r gweithgaredd symud gael ei gynnal.
(5) Ond nid yw erthygl 4 yn gymwys i weithgaredd symud sy’n debygol o—
(a)cael effaith sylweddol ar ardal forol warchodedig;
(b)achosi difrod i nodweddion o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol mewn ardal lle y mae’r gweithgaredd symud yn digwydd.
(6) Yn yr erthygl hon—
(a)mae i “awdurdod gorfodi” yr ystyr a roddir i “enforcement authority” yn adran 114 o’r Ddeddf;
(b)mae i “elusen amgylcheddol” yr ystyr a roddir i “environmental charity” yn adrannau 1(1), 2(1) a 3(1)(i) o Ddeddf Elusennau 2011(1);
(c)ystyr “ardal rhynglanwol” yw’r ardal rhwng lefel penllanw cymedrig y gorlleinw a lefel distyll cymedrig y gorlleinw.”
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys