- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
16.—(1) Mae’r rhwymedigaethau casglu data yn y rheoliad hwn fel a ganlyn.
(2) At ddiben rheoliad 15(2)(a), rhaid i gynhyrchydd sy’n berchennog brand neu’n baciwr/llanwr gadw ar gyfer pob cyfnod casglu data, a dal gafael arni am o leiaf 7 mlynedd ar ôl diwedd y cyfnod casglu data y mae’n ymwneud ag ef—
(a)pan fo’r cynhyrchydd yn gynhyrchydd bach, yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff 10(2) o Atodlen 1, neu
(b)pan fo’r cynhyrchydd yn gynhyrchydd mawr—
(i)yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraffau 10(3)(a) ac 20(b) o Atodlen 1,
(ii)tystiolaeth o’r swm o wastraff pecynwaith y mae wedi ei gasglu a’i anfon i’w ailgylchu, fel yr adroddir amdano o dan baragraff 22(1) a (3) o Atodlen 1, a
(iii)tystiolaeth fod unrhyw wastraff pecynwaith perthnasol sydd wedi ei gynnwys yn y gwastraff pecynwaith y cyfeirir ato ym mharagraff (ii) wedi ei ailgylchu.
(3) At ddiben rheoliad 15(3)(a), rhaid i gynhyrchydd sy’n ddosbarthwr, yn fewnforiwr neu’n ddarparwr gwasanaeth gadw ar gyfer pob cyfnod casglu data, a dal gafael arnynt neu arni am o leiaf 7 mlynedd ar ôl diwedd y cyfnod casglu data y mae’n ymwneud ag ef—
(a)pan fo’r cynhyrchydd yn gynhyrchydd bach, gofnodion o’r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraffau 10(2) ac 20(a) o Atodlen 1, neu
(b)pan fo’r cynhyrchydd yn gynhyrchydd mawr—
(i)cofnodion o’r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraffau 10(3)(a) ac 20(c) o Atodlen 1,
(ii)tystiolaeth o’r swm o wastraff pecynwaith y mae wedi ei gasglu a’i anfon i’w ailgylchu, fel yr adroddir amdano o dan baragraff 22(1) a (3) o Atodlen 1, a
(iii)tystiolaeth fod unrhyw wastraff pecynwaith perthnasol sydd wedi ei gynnwys yn y gwastraff pecynwaith y cyfeirir ato ym mharagraff (ii) wedi ei ailgylchu.
(4) At ddiben rheoliad 15(4)(a), rhaid i gynhyrchydd sy’n weithredwr marchnadle ar-lein gadw ar gyfer pob cyfnod casglu data, a dal gafael arnynt am o leiaf 7 mlynedd ar ôl diwedd y cyfnod casglu data y maent yn ymwneud ag ef—
(a)pan fo’r cynhyrchydd yn gynhyrchydd bach, gofnodion o’r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraffau 17(a) ac 20(a) o Atodlen 1, neu
(b)pan fo’r cynhyrchydd yn gynhyrchydd mawr, gofnodion o’r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraffau 17(b) ac 20(c) o Atodlen 1.
(5) At ddiben rheoliad 15(5), rhaid i gynhyrchydd sy’n werthwr gadw ar gyfer pob cyfnod casglu data, a dal gafael arnynt am o leiaf 7 mlynedd ar ôl diwedd y cyfnod casglu data y maent yn ymwneud ag ef—
(a)pan fo’r cynhyrchydd yn gynhyrchydd bach, gofnodion o’r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff 20(a) o Atodlen 1, neu
(b)pan fo’r cynhyrchydd yn gynhyrchydd mawr, gofnodion o’r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff 20(c) o Atodlen 1.
(6) At ddiben rheoliad 15(7), rhaid i gynhyrchydd sy’n drwyddedwr neu’n fusnes gweithredu tafarn gadw ar gyfer pob cyfnod casglu data, a dal gafael arnynt am o leiaf 7 mlynedd ar ôl diwedd y cyfnod casglu data y maent yn ymwneud ag ef, gofnodion o’r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff 20(d) o Atodlen 1.
(7) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “gwastraff pecynwaith perthnasol” yw—
(a)gwastraff pecynwaith na chaiff ei gasglu o gartrefi i’w ailgylchu gan fwy na 75% o’r awdurdodau perthnasol yng Nghymru sy’n gyfrifol am gasglu gwastraff, a
(b)pecynwaith y gellir ei ailddefnyddio sydd wedi ei ailddefnyddio ac wedi mynd yn wastraff, pa un a yw’n cael ei gasglu o gartrefi i’w ailgylchu gan fwy na 75% o’r awdurdodau perthnasol yng Nghymru sy’n gyfrifol am gasglu gwastraff ai peidio.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys