- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Addysg (Cymhwystra ar gyfer Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygio) (Cymru) 2022. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.![]()
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Mae’r Offeryn Statudol hwn wedi ei argraffu i gywiro camgymeriadau yn O.S. 2021/1294 (Cy. 328) ac mae’n cael ei ddyroddi’n rhad ac am ddim i bawb y gwyddys iddynt gael yr Offeryn Statudol hwnnw.
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
17 Ionawr 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
19 Ionawr 2022
Yn dod i rym
11 Chwefror 2022
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymhwystra ar gyfer Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygio) (Cymru) 2022.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 11.2.2022, gweler rhl. 2
2. Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 11 Chwefror 2022.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 11.2.2022, gweler rhl. 2
3. Mae rheoliadau 4 i 6 yn gymwys mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyriwr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022, pa un a wneir unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn cyn, ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw ai peidio.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 3 mewn grym ar 11.2.2022, gweler rhl. 2
4. Mae Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014(3) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 5 a 6.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 4 mewn grym ar 11.2.2022, gweler rhl. 2
5. Yn rheoliad 3, yn y diffiniad o “person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir” ym mharagraff (a) o’r diffiniad hwnnw yn lle “paragraff 289B” rhodder “paragraffau 289B a 289D”.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 5 mewn grym ar 11.2.2022, gweler rhl. 2
6. Yn Atodlen 1, yn lle paragraff 9B rhodder—
“9B.—(1) Person—
(a)sydd ar y dyddiad perthnasol—
(i)yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig; neu
(ii)yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i);
(b)a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—
(i)yn y diriogaeth y mae’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio; neu
(ii)yn y Deyrnas Unedig, pan ddechreuodd y preswylio arferol hwnnw ar ôl 31 Rhagfyr 2017 yn union ar ôl cyfnod o breswylio arferol yn y diriogaeth y mae’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio,
ac sydd wedi parhau i breswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod sy’n dechrau ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac yn dod i ben yn union cyn y dyddiad perthnasol;
(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;
(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol; ac
(e)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), nad yw wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (d) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at y diben o dderbyn addysg lawnamser.
(2) Nid yw paragraff (e) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio yn unol â pharagraff 1(7).
(3) Pan fo person (“P”) yn dod o fewn is-baragraff (1)(a)(ii), rhaid i’r person y mae P yn aelod o’r teulu mewn perthynas ag ef hefyd fodloni gofynion is-baragraff (1)(b) a (d).”
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 6 mewn grym ar 11.2.2022, gweler rhl. 2
7. Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018(4) wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 8.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 7 mewn grym ar 11.2.2022, gweler rhl. 2
8. Yn eithriad 2 ym mhob un o reoliadau 44(1), 54, 62(2) a 69(2), ar ôl “6A(1),” mewnosoder “6BA,”.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 8 mewn grym ar 11.2.2022, gweler rhl. 2
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014 (“Rheoliadau 2014”) a Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (“Rheoliadau 2018”).
Mae’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn cywiro gwallau yn Rheoliadau 2014 ac yn gwneud darpariaeth bellach yn Rheoliadau 2018 ynghylch cymhwystra dinasyddion Gwyddelig penodol i gael cymorth i fyfyrwyr.
Ystyriwyd Cod Asesiad Effaith Rheoleiddiol Gweinidogion Cymru ar gyfer Is-ddeddfwriaeth mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1998 p. 30; diwygiwyd adran 22(1) ac adran 22(2)(a) gan Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 (p. 29), adran 86(3)(a). Gweler adran 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 am y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”.
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol yn adran 22(1)(a) ac adran 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. Darparodd adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 fod y swyddogaethau yn adran 22(2)(a) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 2004 i’w harfer gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn gydredol â’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau y maent yn ymwneud â gwneud darpariaeth o ran Cymru.
O.S. 2014/3037 (Cy. 303), a ddiwygiwyd gan O.S. 2016/211 (Cy. 84), O.S. 2018/814 (Cy. 165), O.S. 2019/235 (Cy. 54), O.S. 2019/1192 (Cy. 209), O.S. 2020/1302 (Cy. 287); O.S. 2021/9 (Cy. 4) ac O.S. 2021/1294 (Cy. 328).
O.S. 2018/191 (Cy. 42), a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/813 (Cy. 164); O.S. 2018/814 (Cy. 165); O.S. 2019/235 (Cy. 54); O.S. 2019/1094; O.S. 2019/1192 (Cy. 209); O.S. 2020/142 (Cy. 25); O.S. 2020/153 (Cy. 27); O.S. 2020/708 (Cy. 159); O.S. 2020/1302 (Cy. 287); O.S. 2021/9 (Cy. 4); O.S. 2021/73 (Cy. 19); O.S. 2021/481 (Cy. 148); O.S. 2021/813 (Cy. 192) ac O.S. 2021/1365 (Cy. 360).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys