Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid (Awdurdodiadau) (Cymru) 2022

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ychwanegion sydd i’w defnyddio mewn maeth anifeiliaid (“Rheoliad 1831/2003”). Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer awdurdodi 11 o ychwanegion bwyd anifeiliaid.

Mae rheoliad 3 ac Atodlenni 1 i 11 yn darparu ar gyfer awdurdodi’r ychwanegion bwyd anifeiliaid a ganlyn—

  • mae Atodlen 1 yn awdurdodiad newydd, ar gyfer paratoad o gelad manganîs o lysin ac asid glwtamig (rhif adnabod 3b509);

  • mae Atodlen 2 yn awdurdodiad newydd, ar gyfer paratoad o Lactobacillus buchneri DSM 29026 (rhif adnabod 1k20759);

  • mae Atodlen 3 yn awdurdodiad newydd, ar gyfer paratoad o Broteas serin (EC 3.4.21.-) a gynhyrchir gan Bacillus licheniformis (DSM 19670) (rhif adnabod 4a13);

  • mae Atodlen 4 yn adnewyddu awdurdodiad Pyridocsin hydroclorid (fitamin B6) (rhif adnabod 3a831);

  • mae Atodlen 5 yn adnewyddu awdurdodiad paratoad o Saccharomyces cerevisiae CNCM I-4407 (rhif adnabod 4b1702). Mae enw’r straen bacterol wedi ei newid o “Saccharomyces cerevisiae NCYC Sc 47” i “Saccharomyces cerevisiae CNCM I-4407”;

  • mae Atodlen 6 yn adnewyddu awdurdodiad paratoad o Bacillus velezensis (ATCC PTA-6737) (rhif adnabod 4b1823) ac yn estyn y defnydd awdurdodedig presennol i gwmpasu pob mân rywogaeth dofednod (ac eithrio ar gyfer dodwy), adar addurnol, adar helwriaeth ac adar hela. Addaswyd yr awdurdodiad fel a ganlyn:

    • newidir enw’r straen bacterol o “Bacillus subtilis” i “Bacillus velezensis”;

    • cynyddir isafswm cynnwys yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid yn y paratoad o 1x1010 i 8x1010 o unedau ffurfio cytref fesul gram (CFU/g);

  • mae Atodlen 7 yn awdurdodiad newydd ar gyfer paratoad o Bacillus licheniformis DSM 28710 (rhif adnabod 4b1828);

  • mae Atodlen 8 yn adnewyddu awdurdodiadau paratoad o Clostridium butyricum (FERM BP-2789) (rhif adnabod 4b1830) ac yn ei awdurdodi ar gyfer defnydd newydd mewn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir i’w pesgi, perchyll sugno a mân rywogaethau teulu’r moch (sugno);

  • mae Atodlen 9 yn awdurdodiad newydd, ar gyfer paratoad o 6-ffytas a gynhyrchir gan Komagataella phaffii DSM 32854 (rhif adnabod 4a32);

  • mae Atodlen 10 yn awdurdodi fformiwleiddiad newydd o ddecocwinad (Deccox®) (rhif adnabod E756) fel decocwinad (Deccox®) (rhif adnabod 51756i);

  • mae Atodlen 11 yn awdurdodi ffurf addasedig o ddecocwinad (Deccox®) (rhif adnabod E756) fel decocwinad (Avi-Deccox® 60G) (rhif adnabod 51756ii). Mae’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid hwn yn wahanol i ddecocwinad (Deccox®) o ran ei ffurf ffisegol ac oherwydd calsiwm sylffad deuhydrad yw’r gwanedydd a ddefnyddir.

Mae rheoliad 3(2) yn darparu bod awdurdodiadau a roddir gan y Rheoliadau hyn yn ddilys am gyfnod o ddeng mlynedd yn unol ag Erthygl 9(7) o Reoliad 1831/2003. Mae hyn yn ddarostyngedig i Erthygl 14(4) o’r Rheoliad hwnnw, sy’n darparu ar gyfer estyn cyfnod yr awdurdodiad o dan amgylchiadau penodol pan fo cais i adnewyddu wedi ei gyflwyno.

Mae rheoliadau 4 i 7 yn diwygio pedwar o Reoliadau’r UE a ddargedwir sy’n awdurdodi’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid Bacillus subtilis ATCC PTA-6737 ar gyfer gwahanol is-grwpiau o ddofednod a moch. Mae enw’r straen bacterol wedi ei ddiweddaru o “Bacillus subtilis” i “Bacillus velezensis”. Mae rheoliad 10(1) yn cynnwys darpariaeth drosiannol sy’n caniatáu i gynhyrchion a labelwyd gan ddefnyddio’r enw “ Bacillus subtilis” barhau i gael eu marchnata a’u defnyddio o dan yr awdurdodiadau perthnasol er gwaethaf newid yr enw.

Mae rheoliad 8 ac Atodlen 12 yn dirymu, o ran Cymru, Reoliadau’r UE a ddargedwir sy’n cynnwys awdurdodiadau ymlaen llaw ar gyfer yr ychwanegion bwyd anifeiliaid sydd bellach wedi eu hawdurdodi gan Atodlenni 3, 4, 5, 6, 8 a 10.

Mae rheoliadau 9, 10(2) i (5) ac 11 yn cynnwys darpariaethau trosiannol sy’n caniatáu parhau i gynhyrchu a labelu cynhyrchion, am gyfnodau cyfyngedig o amser, o dan amodau awdurdodiadau ymlaen llaw o’r ychwanegion bwyd anifeiliaid perthnasol. Caiff yr ychwanegion bwyd anifeiliaid hynny eu hawdurdodi bellach gan Atodlenni 5, 6 a 10 yn y drefn honno.

Gellir cael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys mewn perthynas ag unrhyw ddogfennaeth y cyfeirir ati yn yr Atodlenni, gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Tŷ Southgate, Caerdydd, CF10 1EW neu drwy anfon e-bost i regulated.products.wales@food.gov.uk.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill