- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”) a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/48 (Cy. 11)) (y “Rheoliadau Atebolrwydd Gweithredwyr”).
Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofyniad i bersonau sy’n cyrraedd Cymru ynysu am gyfnod a bennir yn unol â’r Rheoliadau hynny. Mae’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn ddarostyngedig i eithriadau, ac mae categorïau penodol o berson wedi eu hesemptio rhag gorfod cydymffurfio. Nid yw’n ofynnol i bersonau sy’n dod i Gymru ynysu ar ôl bod mewn un neu ragor o’r gwledydd a’r tiriogaethau a restrir yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Cyfeirir at y gwledydd a’r tiriogaethau a restrir yn Atodlen 3 fel “gwledydd a thiriogaethau esempt”.
Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 2A o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol fel bod yr esemptiadau yn rheoliad 2A bellach yn rhychwantu personau sy’n teithio o Ffrainc Fetropolitanaidd.
Mae rheoliad 4 yn diwygio Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn ychwanegu yr Almaen, Awstria, Latfia, Norwy, Rwmania, Slofacia a Slofenia at y rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin.
Mae rheoliad 5 yn diwygio Atodlen 3A i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, sy’n cynnwys y rhestr o wledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol. Mae personau nad ydynt yn esempt wedi eu gwahardd rhag dod i Gymru pan fônt wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A o fewn 10 niwrnod i gyrraedd, yn unol â rheoliad 12E o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Mae rheoliad 5 yn ychwanegu Georgia, Mayotte, Mecsico a Réunion at y rhestr yn Atodlen 3A ac yn hepgor Bahrain, yr Emiraethau Arabaidd Unedig, India a Qatar.
Mae rheoliad 6 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 1E i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn ychwanegu Cwpan Curtis at y rhestr o ‘digwyddiadau penodedig’. Mae hyn yn hepgor personau perthnasol yn y digwyddiad o’r darpariaethau profi yn rheoliad 6AB o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol ac yn lle hynny yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gadw at y gofynion yn rheoliad 6L o’r Rheoliadau hynny.
Mae rheoliad 7 yn diwygio paragraffau 1 a 2 o Atodlen 1C i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn cysoni’r gofynion technegol ar gyfer profion diwrnod 8 â’r gofynion llymach ar gyfer profion diwrnod 2.
Mae’r Rheoliadau Atebolrwydd Gweithredwyr yn gosod gofynion ar bersonau sy’n gweithredu gwasanaethau teithwyr rhyngwladol (“gweithredwyr”) sy’n cyrraedd Cymru o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin. Yn unol â’r gofynion hynny rhaid i weithredwyr, er enghraifft, sicrhau bod teithwyr sy’n teithio ar y gwasanaethau hynny yn meddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol a’u bod wedi gwneud trefniadau i gymryd profion pellach ar ôl iddynt gyrraedd.
Mae rheoliad 8 yn gwneud diwygiad canlyniadol i reoliad 5C o’r Rheoliadau Atebolrwydd Gweithredwyr yng ngoleuni’r diwygiad i reoliad 2A o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn estyn yr esemptiadau yn rheoliad 2A i bersonau sy’n teithio o Ffrainc Fetropolitanaidd.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys