- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Iechyd Planhigion, Cymru
Gwnaed
13 Gorffennaf 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
15 Gorffennaf
Yn dod i rym
5 Awst 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 7 o Atodlen 4 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(1).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 5 Awst 2021.
2.—(1) Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle Atodlen 1 rhodder—
Rheoliad 3(2)
| Math o arolygiad | Ffi |
|---|---|
| Arolygiad ffisegol a gweithgareddau cysylltiedig (gan gynnwys amser teithio ac amser swyddfa) mewn cysylltiad â rhoi, amrywio neu atal dros dro awdurdodiad pasbort planhigion neu er mwyn monitro cydymffurfedd â’r awdurdodiad hwnnw— | |
| (a) hyd at a chan gynnwys yr awr gyntaf; | £49.50 |
| (b) wedi hynny, am bob 15 munud ychwanegol neu ran o’r cyfnod hwnnw | £12.38”. |
(3) Yn lle Atodlen 4A rhodder—
Rheoliad 3(5A)
| Gwasanaeth | Ffi |
|---|---|
| Ystyried cais, gan gynnwys dyroddi, pan fo’n briodol, tystysgrif ffytoiechydol ar gyfer allforio neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio | £21.00 |
| Archwilio neu brofi pren, cynhyrchion pren, rhisgl wedi ei wahanu neu beiriannau coedwigaeth a ddefnyddiwyd a gweithgareddau cysylltiedig (gan gynnwys amser teithio ac amser swyddfa)— | |
| (a) hyd at a chan gynnwys yr awr gyntaf; | £37.80 |
| (b) wedi hynny, am bob 15 munud ychwanegol neu ran o’r cyfnod hwnnw | £10.50”. |
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
13 Gorffennaf 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 7 o Atodlen 4 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) ac maent yn diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/497 (Cy. 114)).
Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cynyddu’r ffioedd am wasanaethau mewn perthynas ag awdurdodiadau pasbortau planhigion a cheisiadau am dystysgrifau ffytoiechydol (gan gynnwys tystysgrifau ffytoiechydol ar gyfer ailallforio) i adlewyrchu cynnydd chwyddiannol o ran y gost o ddarparu’r gwasanaethau hynny ers cyflwyno’r ffioedd hynny. Mae’r ffioedd sy’n ymwneud ag awdurdodiadau pasbortau planhigion wedi cynyddu 34% ar gyfer y cyfnod rhwng 2006 a 2020, tra bod y ffioedd ar gyfer tystysgrifau allforio wedi cynyddu 40% ar gyfer y cyfnod rhwng 2004 a 2020 (yn seiliedig ar y Mynegai Prisiau Defnyddwyr gan gynnwys costau tai perchen-feddianwyr (CPIH)).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
2018 p. 16 (“Deddf 2018”). Mae Gweinidogion Cymru yn “appropriate authority” yn rhinwedd paragraff 8 o Atodlen 4 i Ddeddf 2018. Diwygiwyd ystyr “appropriate authority” ym mharagraff 8 o Atodlen 4 i Ddeddf 2018 gan adran 41(4) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1) a pharagraff 47(5) o Atodlen 5 iddi.
O.S. 2019/497 (Cy. 114), a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/44 (Cy. 5); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys