Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2) 2021

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 61 (Cy. 14)

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru

Gorchymyn Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2) 2021

Gwnaed

20th Ionawr 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2 o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2) 2021.

(2Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016.

Y diwrnod penodedig i adran 1(2) a (3) o’r Ddeddf ddod i rym

2.  Y diwrnod penodedig i adran 1(2) a (3) o’r Ddeddf (lefelau staff nyrsio) ddod i rym yw 21 Ionawr 2021.

Vaughan Gething

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

20 Ionawr 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn, sydd wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru, yn dwyn i rym ddarpariaethau penodedig o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”).

Mae erthygl 2 yn dwyn i rym adran 1(2) a (3) o’r Ddeddf ar 21 Ionawr 2021. Mae adran 1(2) yn darparu bod rheoliadau sy’n cael eu gwneud o dan adran 25B(3)(c) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (“Deddf 2006”) yn cael eu gwneud drwy ddefnyddio’r weithdrefn gadarnhaol. Mae adran 1(3) yn mewnosod cofnod ar gyfer “nurse staffing level” yn y tabl yn adran 207 o Ddeddf 2006 (mynegai o ymadroddion wedi eu diffinio).

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynRhif O.S.
Adran 1 (yn rhannol)3 Awst 20162016/829 (Cy. 208) (C. 59)
Adran 1 (yn rhannol)6 Ebrill 20172016/829 (Cy. 208) (C. 59)
Adran 1 (yn rhannol)6 Ebrill 20182016/829 (Cy. 208) (C. 59)

Gweler hefyd adran 2(1) o’r Ddeddf ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar 21 Mawrth 2016 (dyddiad y Cydsyniad Brenhinol).

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill