- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2021. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.![]()
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y prif Reoliadau”) fel a ganlyn.
Mae’r cyfnod y mae’r darpariaethau dros dro yn Atodlen 3A yn gymwys ynddo (wrth bontio o Lefel Rhybudd 4 i Lefel Rhybudd 3) wedi ei estyn i ddiwedd y diwrnod ar 2 Mai 2021.
Mae’r cyfyngiad ar bobl rhag ymgynnull pan gynhelir gwaith yng nghartrefi pobl, er enghraifft gan grefftwyr, wedi ei wneud yn glir drwy ddarparu y caniateir hyn ar Lefelau Rhybudd 1, 2 a 3 (ac yn y cyfnod trosiannol sy’n gymwys ar hyn o bryd) heb fod angen iddo fod yn “rhesymol angenrheidiol” a heb fod angen “nad oes dewis arall sy’n rhesymol”.
Mae’r cyfyngiadau cyffredinol ar ymgynnull ag eraill yn yr awyr agored wedi eu llacio drwy ddileu’r gofyniad mai dim ond o ddwy aelwyd wahanol y caiff y rheini sy’n ymgynnull ddod. Mae hyn yn golygu y caiff unrhyw 6 pherson ymgynnull yn yr awyr agored bellach, heb gynnwys plant o dan 11 oed (ar yr amod nad ydynt yn dod o fwy na 6 aelwyd) neu ofalwyr. Mae’r newid hwn yn cymryd effaith ar 24 Ebrill 2021 a bydd hefyd yn gymwys ar Lefel Rhybudd 3.
Yn ogystal, caiff pobl ymgynnull yn yr awyr agored at ddibenion cymryd rhan mewn gweithgareddau sydd wedi eu trefnu’n ffurfiol sy’n cynnwys hyd at 30 o bobl (mae hyn yn golygu bod person dynodedig yn gyfrifol am y gweithgaredd, bod pob mesur rhesymol yn cael ei gymryd i leihau lledaeniad y coronafeirws wrth ymgymryd â’r gweithgaredd ac nad yw alcohol yn cael ei yfed). Mae’r newid hwn yn cael effaith o 26 Ebrill 2021.
Gall gweithgareddau sydd wedi eu trefnu’n ffurfiol gynnwys protestio a phicedu, a all ddigwydd heb gyfyngu ar nifer y bobl sy’n bresennol ar bob Lefel Rhybudd ac eithrio Lefel Rhybudd 4.
Mae darpariaeth benodol wedi ei gwneud i ganiatáu cynulliadau yn yr awyr agored, o hyd at 30 o bobl, i ddathlu gweinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall a ddigwyddodd ar neu ar ôl 26 Mawrth 2020. Ac, yn yr un modd, caniateir cynulliadau yn yr awyr agored o hyd at 30 o bobl i ddathlu bywyd person ymadawedig y cynhelir ei angladd ar neu ar ôl 26 Mawrth 2020. Mae’r newid hwn yn cael effaith o 26 Ebrill 2021.
Caniateir i fusnesau penodol ailagor eu mangreoedd ar gyfer gweithgareddau yn yr awyr agored. Mae hyn yn cynnwys busnesau bwyd a diod, atyniadau i ymwelwyr a phyllau nofio. Mae’r newid hwn yn cael effaith o ddechrau’r diwrnod ar 26 Ebrill 2021, ac eithrio ar gyfer busnesau bwyd a diod a gaiff agor o 6 a.m. ymlaen y diwrnod hwnnw.
Caniateir trefnu digwyddiadau “peilot” â chaniatâd Gweinidogion Cymru. Mae hyn hefyd i fod yn gymwys ar Lefel Rhybudd 3 (ac roedd eisoes wedi ei ganiatáu ar Lefelau Rhybudd 2 a 1).
Mae diwygiadau wedi eu gwneud hefyd i Atodlenni 1, 2 a 3 (yr Atodlenni sy’n gymwys ar Lefelau Rhybudd 1, 2 a 3). Mae’r rhain wedi eu gwneud i adlewyrchu cynnwys Cynllun Rheoli’r Coronafeirws a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2021 a mân newidiadau eraill sydd wedi eu gwneud i’r cyfyngiadau yn ystod y cyfnod o bontio o Lefel Rhybudd 4 i Lefel Rhybudd 3 y bwriedir iddynt barhau i gael effaith ar y Lefelau Rhybudd eraill. O ganlyniad i hyn a’r diwygiadau eraill y cyfeirir atynt uchod, mae Atodlen 3 wedi ei hatgynhyrchu’n llawn.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys