- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rhan 1 o’r Rheoliadau hyn yn cyflwyno Atodlen 1 sy’n gwneud darpariaeth ynghylch y safonau ymddygiad sy’n gymwys i aelodau, cyfranogwyr cyfetholedig a chyflogeion cyd-bwyllgorau corfforedig.
Mae paragraff 1 o Atodlen 1 yn cyfeirio at y cod ymddygiad y mae rhaid i awdurdodau perthnasol ei fabwysiadu o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p. 22). Mae’n darparu, pan fo aelod neu gyfranogwr cyfetholedig cyd-bwyllgor corfforedig yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o awdurdod perthnasol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, fod cod ymddygiad ei awdurdod yn gymwys iddo fel pe bai wedi ei benodi i’r cyd-bwyllgor corfforedig gan ei awdurdod.
Mae paragraff 2 o Atodlen 1 yn cyfeirio at y cod ymddygiad ar gyfer cyflogeion awdurdodau perthnasol sydd hefyd wedi ei wneud o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000. Mae’n darparu bod y cod hwn yn gymwys i gyflogeion cyd-bwyllgorau corfforedig fel y mae’n gymwys i gyflogeion awdurdodau perthnasol o fewn yr ystyr a roddir gan y Ddeddf honno.
Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn cyflwyno Atodlen 2 sy’n gwneud darpariaeth ynghylch cyfrifon a chyllid cyd-bwyllgorau corfforedig.
Mae paragraff 1 o Atodlen 2 yn darparu bod Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 yn gymwys i gyd-bwyllgorau corfforedig fel y mae’n gymwys i awdurdodau lleol.
Mae Rhan 1 o Ddeddf 2003 yn gwneud darpariaeth ynghylch trefniadau rheoli ariannol awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus cysylltiedig, gan gynnwys yn benodol ddarpariaeth ynghylch cyllid cyfalaf ac arferion cyfrifyddu.
Mae paragraff 2 o Atodlen 2 yn darparu bod Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003 yn gymwys i gyd-bwyllgorau corfforedig fel y maent yn gymwys i awdurdodau lleol. Mae Rheoliadau 2003 yn gwneud darpariaeth bellach, fanylach, ynghylch y materion sydd wedi eu cynnwys yn Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003.
Mae Atodlen 3 yn gwneud diwygiadau cyffredinol i ddeddfiadau eraill.
Mae paragraff 1 o Atodlen 3 yn diwygio adran 1 o Ddeddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 1970 (p. 39) gyda’r effaith y caiff cyd-bwyllgorau corfforedig ymrwymo i gytundebau penodol ar gyfer nwyddau a gwasanaethau gydag awdurdod arall y mae’r adran honno yn gymwys iddo mewn perthynas â gweithrediadau masnachu.
Mae paragraff 2 o Atodlen 3 yn diwygio adran 59 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (p. 15) gyda’r effaith bod y mesurau diogelu rhag gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth a nodir yn adran 58 o’r Ddeddf honno yn gymwys i aelod o gyd-bwyllgor corfforedig sy’n cyflawni busnes swyddogol fel aelod o’r fath.
Mae paragraff 3 o Atodlen 3 yn diwygio paragraff 1 o Atodlen 20 i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017. Mae’r paragraff hwnnw yn darparu nad oes unrhyw dreth trafodiadau tir i’w chodi ar drafodiad tir rhwng cyrff cyhoeddus sy’n deillio o ganlyniad i ad-drefnu y darperir ar ei gyfer mewn deddfwriaeth. Mae’r diwygiad yn sicrhau bod cyd-bwyllgorau corfforedig yn cael eu trin fel cyrff cyhoeddus at ddibenion y rhyddhad hwnnw rhag treth.
Mae’r Rheoliadau yma yn gysylltiedig â Rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig penodol o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1). Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig a rheoliadau cysylltiedig. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys