Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Diwygio) a Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Adroddiadau ar Sefydlogrwydd y Farchnad) (Cymru) 2021

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 198 (Cy. 46)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Diwygio) a Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Adroddiadau ar Sefydlogrwydd y Farchnad) (Cymru) 2021

Gwnaed

24 Chwefror 2021

Yn dod i rym

1 Ebrill 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 144B(1), (2)(a) a (3), 166(1)(b) a (4)(a) a 168 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn(2).

Yn unol ag adran 144B(6) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ag unrhyw bersonau yr oeddent yn ystyried eu bod yn briodol.

Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru o dan adran 196(6)(a) o’r Ddeddf honno ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad(3).

RHAN 1

Cyffredinol

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Diwygio) a Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Adroddiadau ar Sefydlogrwydd y Farchnad) (Cymru) 2021.

(2Dawʼr Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2021.

(3Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad” (“market stability report”) yw’r adroddiad y mae’n ofynnol ei lunio a’i gyhoeddi o dan adran 144B o’r Ddeddf;

ystyr “asesiad poblogaeth” (“population assessment”) yw’r asesiad y mae’n ofynnol ei gynnal o dan adran 14(1) o’r Ddeddf;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;

mae i “gofal a chymorth” (“care and support”) yr un ystyr ag a roddir gan adran 4 o’r Ddeddf;

mae i “gwasanaeth rheoleiddiedig” (“regulated service”) yr un ystyr ag a roddir gan adran 2(1) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(4);

ystyr “y Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth” (“the Partnership Arrangements Regulations”) yw Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015(5).

RHAN 2

Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad

Materion eraill sydd i’w cynnwys yn yr adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad

2.  Rhaid i adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad gynnwys asesiad o’r materion hynny a bennir yn yr Atodlen.

Cyfnod asesu digonolrwydd y ddarpariaeth o ofal a chymorth

3.  Rhaid asesu digonolrwydd y ddarpariaeth o ofal a chymorth dros y cyfnod ers cyhoeddi’r asesiad poblogaeth blaenorol.

Cyhoeddi adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad

4.—(1Rhaid i awdurdodau lleol gyhoeddi adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad erbyn 1 Mehefin 2022.

(2Rhaid cyhoeddi adroddiadau dilynol ar sefydlogrwydd y farchnad bob 5 mlynedd ar ôl y dyddiad y cyhoeddwyd yr adroddiad diweddaraf ar sefydlogrwydd y farchnad.

Ffurf yr adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad

5.  Rhaid cyhoeddi’r adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad mewn fformat electronig.

RHAN 3

Diwygio’r Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth

Diwygio’r Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth

6.  Yn y Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth, ar ôl rheoliad 18 mewnosoder—

Adroddiadau ar Sefydlogrwydd y Farchnad
Adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad

18A.(1) Rhaid i’r cyrff partneriaeth ar gyfer pob un o’r ardaloedd bwrdd partneriaeth rhanbarthol bennu’r trefniadau ar gyfer cyflawni ar y cyd y swyddogaethau adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad.

(2) Yn y rheoliad hwn, ystyr “swyddogaethau adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad” yw’r swyddogaethau penodedig a roddir i awdurdodau lleol gan adran 144B o’r Ddeddf(6).

Julie Morgan

Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

24 Chwefror 2021

Rheoliad 2

YR ATODLENMaterion eraill sydd i’w cynnwys yn yr adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad

Digonolrwydd y ddarpariaeth o ofal a chymorth

1.  Asesiad o ddigonolrwydd y ddarpariaeth o wasanaethau rheoleiddiedig sy’n darparu gofal a chymorth sy’n cynnwys unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth i ddiwallu’r anghenion a nodir yn yr asesiad poblogaeth diweddaraf.

Ansawdd cyffredinol gofal a chymorth

2.  Asesiad o ansawdd cyffredinol y gofal a’r cymorth sy’n cael eu darparu gan wasanaethau rheoleiddiedig wrth ddiwallu anghenion a chyflawni canlyniadau personol pobl y mae angen gofal a chymorth arnynt, a’r gofalwyr hynny y mae angen cymorth arnynt.

Tueddiadau cyfredol neu ddatblygol gofal a chymorth

3.  Asesiad o’r tueddiadau cyfredol neu ddatblygol yn y ddarpariaeth o wasanaethau rheoleiddiedig sy’n darparu gofal a chymorth a’u heffaith ar ddigonolrwydd, ansawdd neu sefydlogrwydd y gwasanaethau hynny.

Heriau

4.  Asesiad o unrhyw heriau sylweddol ar hyn o bryd neu yn y dyfodol i ddigonolrwydd, ansawdd a sefydlogrwydd y ddarpariaeth o wasanaethau rheoleiddiedig sy’n darparu gofal a chymorth.

Effaith comisiynu

5.  Asesiad o effaith comisiynu a chyllido ar ddigonolrwydd, ansawdd a sefydlogrwydd y ddarpariaeth o wasanaethau rheoleiddiedig sy’n darparu gofal a chymorth, gan gynnwys dulliau rhanbarthol a defnyddio cronfeydd cyfun.

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan bwerau a roddir i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”) mewn perthynas ag adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad leol.

Mae adran 144B o’r Ddeddf yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau mewn perthynas ag adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad.

Mae adran 166(1)(b) o’r Ddeddf yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i wneud trefniadau partneriaeth penodedig yn ofynnol rhwng un neu ragor o awdurdodau lleol ac un neu ragor o Fyrddau Iechyd Lleol. Mae adran 166(4)(a) yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol neu Fwrdd Iechyd Lleol gyflawni swyddogaethau a bennir at ddibenion adran 166(2), megis swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, at ddibenion trefniadau partneriaeth. Mae adran 168 o’r Ddeddf yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol i fwrdd partneriaeth mewn cysylltiad â threfniadau partneriaeth a wneir o dan reoliadau o dan adran 168(1)(c) gael ei sefydlu gan un neu ragor o awdurdodau lleol ac un neu ragor o Fyrddau Iechyd Lleol. O dan adran 168(2)(c), caiff y rheoliadau hynny wneud darpariaeth ynghylch amcanion a swyddogaethau’r bwrdd partneriaeth.

Mae Rhan 1 yn ymdrin â chychwyn a diffiniadau.

Mae Rhan 2 yn ymdrin â pha faterion pellach sy’n ymwneud â’r ddarpariaeth o wasanaethau rheoleiddiedig y mae’n ofynnol eu cynnwys yn yr adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad; y cyfnod amser y mae’r adroddiad yn ystyried digonolrwydd y ddarpariaeth o ofal a chymorth; y dyddiad erbyn pryd y mae rhaid cyhoeddi’r adroddiad a ffurf yr adroddiad.

Mae rheoliad 2 wedi ei wneud o dan adran 144B(2)(a)(iii) ac mae’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol, wrth iddynt lunio adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad leol, gynnwys asesiad o’r materion eraill hynny sy’n ymwneud â’r ddarpariaeth o wasanaethau rheoleiddiedig yn ardal yr awdurdod lleol, a bennir yn yr Atodlen ac sy’n cynnwys digonolrwydd y ddarpariaeth o ofal a chymorth, ansawdd cyffredinol gofal a chymorth, tueddiadau cyfredol neu ddatblygol gofal a chymorth, unrhyw heriau sylweddol ac effaith comisiynu a chyllido.

Mae rheoliad 3 wedi ei wneud o dan adran 144B(2)(a)(i) ac mae’n darparu ar gyfer cyfnod asesu digonolrwydd y ddarpariaeth o ofal a chymorth.

Mae rheoliad 4 wedi ei wneud o dan adran 144B(1) ac mae’n darparu ar gyfer yr adegau y mae rhaid i awdurdodau lleol lunio a chyhoeddi eu hadroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad.

Mae rheoliad 5 wedi ei wneud o dan adran 144B(3) ac mae’n ei gwneud yn ofynnol i’r adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad fod mewn fformat electronig.

Mae Rhan 3 wedi ei gwneud o dan adrannau 166(1)(b) a (4)(a) a 168 ac mae’n diwygio Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015. Mae’r Rhan hon yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol ymrwymo i drefniant partneriaeth ar gyfer cyflawni swyddogaethau’r awdurdodau lleol o dan adran 144B.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol oʼr costau aʼr manteision syʼn debygol o ddeillio o gydymffurfio âʼr Rheoliadau hyn.

(2)

Gweler adran 40 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4) am ddarpariaeth ynghylch y weithdrefn syʼn gymwys iʼr offeryn hwn.

(3)

Mae’r cyfeiriad yn adran 196(6)(a) at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriad at Senedd Cymru, yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(6)

Mae swyddogaethau awdurdodau lleol o dan adran 144B o’r Ddeddf yn un o’r swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol sy’n “swyddogaethau penodedig” at ddibenion y Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth yn rhinwedd rheoliad 9 o’r Rheoliadau hynny ac Atodlen 1 iddynt.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill