- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Llywodraeth Leol, Cymru
Plant A Phobl Ifanc, Cymru
Gwnaed
am 10.05 a.m. ar 1 Rhagfyr 2021
Yn dod i rym
3 Rhagfyr 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 5(3) o Fesur Plant a Theuluoedd 2010(1) ac adrannau 84(2)(a) a 174(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021(2) (“Deddf 2021”).
Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad yn unol ag adran 174(4) a (5)(l) o Ddeddf 2021(3).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Strategaeth Tlodi Plant (Cyd-bwyllgorau Corfforedig) (Cymru) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Rhagfyr 2021.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
(a)ystyr “strategaeth tlodi plant” yw strategaeth sy’n nodi pob un o’r pethau a bennir yn adran 2(1) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010;
(b)ystyr “cyd-bwyllgor corfforedig” yw cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir drwy reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;
(c)ystyr “awdurdod lleol” yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
(d)ystyr “cyfnod y strategaeth” yw’r cyfnod y mae strategaeth tlodi plant mewn perthynas ag ef.
3.—(1) Cyfnod y strategaeth ar gyfer y strategaeth tlodi plant gyntaf a lunnir gan gyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir ar 1 Ionawr 2022 neu cyn hynny yw’r cyfnod sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2023 ac yn dod i ben ar 31 Mawrth 2026.
(2) Cyfnod y strategaeth ar gyfer y strategaeth tlodi plant gyntaf a lunnir gan gyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir ar ôl 1 Ionawr 2022 yw’r cyfnod—
(a)sy’n dechrau ar y dyddiad y cyhoeddir y strategaeth (gweler rheoliad 4(2)), a
(b)sy’n dod i ben ar 31 Mawrth yn y drydedd flwyddyn galendr yn dilyn y flwyddyn galendr y cyhoeddir y strategaeth ynddi.
(3) Cyfnod y strategaeth ar gyfer strategaethau tlodi plant dilynol yw’r cyfnod o dair blynedd sy’n dechrau ar 1 Ebrill yn union ar ôl diwedd cyfnod y strategaeth ar gyfer y strategaeth flaenorol.
4.—(1) Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir ar 1 Ionawr 2022 neu cyn hynny gyhoeddi ei strategaeth tlodi plant gyntaf ar 1 Ebrill 2023 neu cyn hynny.
(2) Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir ar ôl 1 Ionawr 2022 gyhoeddi ei strategaeth tlodi plant gyntaf heb fod yn hwyrach na 12 mis ar ôl y dyddiad y sefydlir y cyd-bwyllgor corfforedig.
(3) Rhaid i strategaethau dilynol gael eu cyhoeddi ar y dyddiad y mae cyfnod y strategaeth ar gyfer y strategaeth yn dechrau neu cyn hynny.
5.—(1) Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig gyhoeddi strategaeth tlodi plant drwy ei rhoi ar ei wefan ar y dyddiad y cyhoeddir y strategaeth a rhaid iddo gynnal y strategaeth ar y wefan honno drwy gydol cyfnod y strategaeth.
(2) Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig wneud trefniadau i anfon copi o unrhyw wybodaeth a gyhoeddir o dan baragraff (1) pan ofynnir amdano i unrhyw aelod o’r cyhoedd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl y gofynnir am gopi.
6.—(1) Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig adolygu pob un o’i strategaethau tlodi plant cyn diwedd cyfnod y strategaeth ar gyfer y strategaeth o dan sylw.
(2) Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig lunio adroddiad ar y cyfryw adolygiad a rhaid iddo gyhoeddi’r adroddiad adolygu drwy ei roi ar ei wefan.
(3) Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig wneud trefniadau i anfon copi o unrhyw wybodaeth a gyhoeddir o dan baragraff (2) pan ofynnir amdano i unrhyw aelod o’r cyhoedd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl y gofynnir am gopi.
7. Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig, cyn cyhoeddi strategaeth tlodi plant, ymgynghori â Gweinidogion Cymru, awdurdodau lleol a phersonau eraill sydd, yn nhyb y cyd-bwyllgor corfforedig, yn briodol.
8. Yn rheoliad 2 o Reoliadau’r Strategaeth Tlodi Plant (Cymru) 2011(4), yn lle “nac awdurdod lleol” rhodder “, awdurdod lleol na chyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir drwy reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
Am 10.05 a.m. ar 1 Rhagfyr 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (“y Mesur”) yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfraniad awdurdodau Cymreig at ddileu tlodi plant yng Nghymru.
Mae cyd-bwyllgorau corfforedig a sefydlir drwy reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“y Ddeddf”) yn awdurdodau Cymreig at ddiben y Mesur.
Mae’r Rheoliadau hyn yn nodi’r cyfnod amser y mae strategaeth tlodi plant a lunnir gan gyd-bwyllgor corfforedig mewn perthynas ag ef, pa bryd y dylai’r strategaeth gael ei hadnewyddu, pa bryd a sut y dylai’r strategaeth gael ei chyhoeddi a sut y gellir ei harchwilio.
Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau’r Strategaeth Tlodi Plant (Cymru) 2011, drwy ddatgymhwyso’r Rheoliadau hynny i gyd-bwyllgorau corfforedig.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gysylltiedig â rheoliadau a sefydlodd gyd-bwyllgorau corfforedig penodol o dan Ran 5 o’r Ddeddf.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig a gorchmynion a rheoliadau cysylltiedig. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Gweler hefyd adran 40 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4) ar gyfer darpariaeth ynglŷn â’r weithdrefn sy’n gymwys i’r offeryn hwn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys