Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015) 2021

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1360 (Cy. 356)

Llywodraeth Leol, Cymru

Llesiant, Cymru

Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015) 2021

Gwnaed

am 9.55 a.m. ar 1 Rhagfyr 2021

Yn dod i rym

3 Rhagfyr 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 84(2)(a) a 174 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021(1).

Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad yn unol ag adran 174(4) a (5)(l) o’r Ddeddf honno.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Rhagfyr 2021.

Diwygio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

2.—(1Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015(2) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn adran 6(1) (ystyr “corff cyhoeddus”), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(ba)cyd-bwyllgor corfforedig;.

(3Ar ôl adran 8 (amcanion llesiant Gweinidogion Cymru) mewnosoder—

8A    Amcanion llesiant cyd-bwyllgorau corfforedig

(1) Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir ar 1 Ionawr 2022 neu cyn hynny osod a chyhoeddi ei amcanion llesiant—

(a)heb fod yn hwyrach na 1 Ebrill 2023, a

(b)ar ba adegau dilynol bynnag ag y bo’n eu hystyried yn briodol.

(2) Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir ar ôl 1 Ionawr 2022 osod a chyhoeddi ei amcanion llesiant—

(a)heb fod yn hwyrach na 12 mis ar ôl y dyddiad y sefydlir y cyd-bwyllgor corfforedig, a

(b)ar ba adegau dilynol bynnag ag y bo’n eu hystyried yn briodol.

(3) Os yw’r nodau llesiant yn cael eu diwygio, rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig adolygu ei amcanion llesiant.

(4) Os yw cyd-bwyllgor corfforedig yn penderfynu, yn dilyn adolygiad o dan is-adran (3), nad yw un neu ragor o’i amcanion llesiant yn briodol bellach, rhaid iddo ddiwygio’r amcan neu’r amcanion perthnasol.

(5) Caiff cyd-bwyllgor corfforedig, ar unrhyw adeg arall, adolygu a diwygio ei amcanion llesiant.

(6) Pan fo cyd-bwyllgor corfforedig yn diwygio ei amcanion llesiant o dan is-adran (4) neu (5), rhaid iddo eu cyhoeddi gyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(7) Wrth osod neu ddiwygio ei amcanion llesiant, rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig ystyried adroddiad y Comisiynydd a gyhoeddir o dan adran 23.

(4Yn adran 9(1) (amcanion llesiant cyrff cyhoeddus eraill), ar ôl “Gweinidogion Cymru” mewnosoder “neu gyd-bwyllgor corfforedig”.

(5Yn adran 55(1) (dehongli), yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “cyd-bwyllgor corfforedig” (“corporate joint committee”) yw cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir drwy reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;.

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

Am 9.55 a.m. ar 1 Rhagfyr 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae adran 6 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (“y Ddeddf”) yn rhestru personau penodol sy’n “corff cyhoeddus” at ddibenion Rhannau 2 a 3 o’r Ddeddf.

Mae Rhan 2 o’r Ddeddf yn nodi’r nodau llesiant y mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus geisio eu cyrraedd. Mae Rhan 3 o’r Ddeddf yn galluogi swydd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru i fonitro ac asesu i ba raddau y mae’r amcanion llesiant a osodir gan gyrff cyhoeddus o dan Ran 2 o’r Ddeddf yn cael eu cyflawni.

Mae’r Rheoliadau hyn yn ychwanegu cyd-bwyllgorau corfforedig, a sefydlir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 at y rhestr o gyrff cyhoeddus yn adran 6 o’r Ddeddf, ac fel cyrff o’r fath mae cyd-bwyllgorau corfforedig yn agored i gydymffurfio â Rhannau 2 a 3 o’r Ddeddf.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio’r Ddeddf drwy ddatgymhwyso adran 9 o’r Ddeddf mewn perthynas â chyd-bwyllgorau corfforedig. Mae adran 8A, sy’n pennu pan fo rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig osod ac adolygu ei amcanion llesiant, wedi ei mewnosod yn y Ddeddf.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig a gorchmynion a rheoliadau cysylltiedig. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol. Gellir cael copi gan yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill