- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Llywodraeth Leol, Cymru
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Gwnaed
am 9.45 a.m. ar 1 Rhagfyr 2021
Yn dod i rym
3 Rhagfyr 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 84(2)(a) a 174 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021(1).
Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad yn unol ag adran 174(4) a (5)(l) o’r Ddeddf honno.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Ystyr Corff Cyhoeddus) (Cymru) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Rhagfyr 2021.
2. Yn adran 85 (dyletswydd gyffredinol cyrff cyhoeddus etc.) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000(2), yn is-adran (3), yn y diffiniad o “public body”, ar y diwedd mewnosoder—
“(e)a corporate joint committee established by regulations made under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021;”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
am 9.45 a.m. ar 1 Rhagfyr 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio adran 85 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (p. 37). Mae adran 85(1) yn darparu, wrth arfer neu gyflawni unrhyw swyddogaeth mewn perthynas ag ardal o harddwch naturiol eithriadol, neu sy’n effeithio ar ardal o’r fath, bod rhaid i “relevant authority” roi sylw i’r dibenion o gadw a gwella harddwch naturiol yr ardal.
Mae adran 85(2) yn rhestru’r cyrff a’r personau sy’n “relevant authority” ac sydd felly yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd a gynhwysir yn adran 85(1). Mae’r rhestr yn cynnwys “any public body”, gydag adran 85(3) yn rhestru cyrff sydd wedi eu cynnwys o fewn y term hwn.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio adran 85(3) fel bod cyd-bwyllgorau corfforedig a sefydlir drwy reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1) (“y Ddeddf”), wedi eu cynnwys yn y rhestr o gyrff cyhoeddus yn adran 85(3). Drwy hyn, mae cyd-bwyllgorau corfforedig yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd yn adran 85(1).
Mae’r Rheoliadau hyn yn gysylltiedig â rheoliadau a oedd yn sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig penodol o dan Ran 5 o’r Ddeddf.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig a gorchmynion a rheoliadau cysylltiedig. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol. Gellir cael copi oddi wrth: yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
2000 p. 37; gwnaed diwygiadau perthnasol gan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4) a Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys