Newidiadau dros amser i: Adran 21
Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 21/08/2023.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 6 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021, Adran 21.

Changes to Legislation
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
[Galluedd plantLL+C
21.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys—
(a)i’r ddyletswydd i roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i blentyn yn erthyglau 9(2), 10(2)[, 10A(2)] ac 11(2);
(b)i’r ddyletswydd i roi hysbysiad yn dilyn cais gan blentyn o dan erthygl 12;
(c)i’r ddyletswydd i roi copi o’r cynllun datblygu unigol i blentyn o fewn 12 wythnos yn erthygl 13(1);
(d)i’r pŵer i roi hysbysiad ADY i blentyn yn erthygl 14(2).
(2) Nid yw’r ddyletswydd neu’r pŵer yn gymwys os yw’r awdurdod lleol priodol yn ystyried nad oes gan y plentyn alluedd i ddeall y mater o dan sylw.
(3) Pan fo paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â’r ddyletswydd ym mharagraff (1)(a) neu (b), mae’r cyfeiriad cyntaf at blentyn yn erthygl 5 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei hepgor.
(4) Pan fo paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â’r ddyletswydd ym mharagraff (1)(a) neu (b), mae’r cyfeiriad cyntaf at blentyn yn erthygl 6 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei hepgor.]
Yn ôl i’r brig