Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Darpariaethau Canlyniadol ac Atodol) 2018

Newidiadau dros amser i: Rheoliadau Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Darpariaethau Canlyniadol ac Atodol) 2018

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Darpariaethau Canlyniadol ac Atodol) 2018. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Offerynnau Statudol Cymru

2018 Rhif 285 (Cy. 54)

Trethi, Cymru

Rheoliadau Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Darpariaethau Canlyniadol ac Atodol) 2018

Gwnaed

26 Chwefror 2018

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

5 Mawrth 2018

Yn dod i rym

1 Ebrill 2018

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 188 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016(1).

Enwi a chychwynLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Darpariaethau Canlyniadol ac Atodol) 2018.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2018.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 1.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Diwygio Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015LL+C

F12.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

F1Rhl. 2 wedi ei hepgor (24.2.2025) yn rhinwedd Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024 (O.S. 2024/782), rhlau. 1(2), 51 (ynghyd â rhl. 2) (O.S. 2024/716, Atod. (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2024/959, rhlau. 1(2), 2(7)(a))

Diwygio Deddf Cydraddoldeb 2010LL+C

3.  Yn Rhan 2 o Atodlen 19 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010(2) (awdurdodau cyhoeddus: awdurdodau Cymreig perthnasol), o dan y pennawd “other public authorities”, cyn “The Auditor General for Wales or Archwilydd Cyffredinol Cymru.” mewnosoder—

The Welsh Revenue Authority or Awdurdod Cyllid Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 3 mewn grym ar 1.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Diwygio Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2015LL+C

4.  Yn yr Atodlen i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2015(3) (swyddi sy’n anghymhwyso’r deiliad rhag bod yn aelodau o Gynulliad Cenedlaethol Cymru), mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y lle priodol yn y tabl—

Awdurdod Cyllid CymruCadeirydd ac aelodau a benodwyd o dan adran 3(1)(b) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 4 mewn grym ar 1.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Diwygio Deddf Enillion Troseddau 2002LL+C

5.  Mae Deddf Enillion Troseddau 2002(4) wedi ei diwygio fel a ganlyn—

(a)yn adran 47A(2)(5) (adrannau 47B i 47S: ystyr “appropriate officer”), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;

(b)yn adran 47G(3)(c) (cymeradwyaeth briodol), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;

(c)yn adran 68(3)(c) (ceisiadau ac apelau), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;

(d)yn adran 290(4)(c)(6) (cymeradwyaeth ymlaen llaw), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;

(e)yn adran 303A(1)(7) (ymchwilwyr ariannol), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;

(f)yn adran 352(7)(8) (gwarantau chwilio ac ymafael), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;

(g)yn adran 353(11)(9) (gofynion pan na fo gorchymyn cyflwyno ar gael), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;

(h)yn adran 378(2)(d) (uwch-swyddogion priodol mewn ymchwiliad atafaelu), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;

(i)yn adran 378(3AA)(b)(10) (uwch-swyddogion priodol mewn ymchwiliad arian parod dan gadwad), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”;

(j)yn adran 378(3B)(11) (swyddogion priodol mewn ymchwiliad arian parod dan gadwad), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”; a

(k)yn adran 378(6)(c) (uwch-swyddogion priodol mewn ymchwiliad gwyngalchu arian), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or the Welsh Ministers”.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 5 mewn grym ar 1.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Mark Drakeford

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru

26 Chwefror 2018

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan adran 188 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”).

Mae rheoliad 2 yn diwygio Atodlen 1 i Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 er mwyn darparu bod Awdurdod Cyllid Cymru (“ACC”) i’w drin fel “central government authority” at ddibenion y Rheoliadau hynny.

Mae rheoliad 3 yn diwygio Atodlen 19 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 er mwyn darparu bod ACC i’w drin fel “relevant Welsh authority” at ddibenion y Ddeddf honno.

Mae rheoliad 4 yn diwygio Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2015 er mwyn darparu bod cadeirydd ac aelodau anweithredol ACC wedi eu hanghymhwyso rhag dod yn aelodau o Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae rheoliad 5 yn diwygio Deddf Enillion Troseddau 2002 er mwyn gwneud darpariaeth atodol mewn cysylltiad ag adran 186 (enillion troseddau) o’r Ddeddf.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(3)

O.S. 2015/1536, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(5)

Mewnosodwyd adrannau 47A i 47S gan adran 55(1) a (2) o Ddeddf Plismona a Throsedd 2009 (p. 26).

(6)

Mewnosodwyd adran 290(4)(c) gan adran 79 o Ddeddf Troseddu Difrifol 2007 (p. 27), a pharagraffau 1 a 3(1) a (2) o Atodlen 11 iddi.

(7)

Mewnosodwyd adran 303A gan adran 79 o Ddeddf Troseddu Difrifol 2007, a pharagraffau 1 a 13 o Atodlen 11 iddi.

(8)

Mewnosodwyd adran 352(7) gan adran 80(2) o Ddeddf Troseddu Difrifol 2007.

(9)

Mewnosodwyd adran 353(11) gan adran 80(4) o Ddeddf Troseddu Difrifol 2007.

(10)

Mewnosodwyd adran 378(3AA)(b) gan adran 49(b) o Ddeddf Troseddu a’r Llysoedd 2013 (p. 22), a pharagraffau 24 a 27(1) a (2) o Ran 2 o Atodlen 19 iddi.

(11)

Mewnosodwyd adran 378(3B) gan adran 80(8) o Ddeddf Troseddu Difrifol 2007.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill