- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) Instrument yn cynnwys darpariaethau sy'n rhagolygol.![]()
Defnyddir y term darpariaeth i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – megis Rhan, Pennod neu adran. Mae fersiwn o ddarpariaeth yn rhagolygol naill ai:
Gall Gorchmynion Cychwyn a restrir yn y blwch 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' fel rhai sydd heb eu gwneud eto ddod â'r fersiwn ragolygol hon i rym.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Meysydd Tref a Phentref (Datganiadau Perchnogion Tir) (Cymru) 2018. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.![]()
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Rhagolygol
Offerynnau Statudol Cymru
Tiroedd Comin, Cymru
Gwnaed
19 Medi 2018
Laid before the National Assembly for Wales
24 Medi 2018
Yn dod i rym
22 Hydref 2018
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r awdurdod cenedlaethol priodol gan adrannau 15A, 15B a 59 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Rhagolygol
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Meysydd Tref a Phentref (Datganiadau Perchnogion Tir) (Cymru) 2018 a deuant i rym ar 22 Hydref 2018.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 22.10.2018, gweler rhl. 1(1)
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “yr awdurdod” (“the authority”) yw’r awdurdod cofrestru tiroedd comin;
ystyr “cofrestr” (“register”) yw’r gofrestr y mae’n ofynnol i’r awdurdod ei chadw o dan adran 15B(1) o Ddeddf 2006 mewn cysylltiad â mapiau a datganiadau a adneuir o dan adran 15A o’r Ddeddf honno;
ystyr “datganiad” (“statement”) yw datganiad o dan adran 15A(1) o Ddeddf 2006;
ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf Tiroedd Comin 2006;
mae i “hysbysiad adneuo” (“notice of deposit”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 6(3)(b);
ystyr “perchennog perthnasol” (“relevant owner”) yw’r perchennog sy’n adneuo datganiad;
ystyr “tir perthnasol” (“relevant land”) yw’r tir y mae’r datganiad o dan sylw yn ymwneud ag ef.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 22.10.2018, gweler rhl. 1(1)
3.—(1) Rhaid i ddatganiad o dan adran 15A(1) o Ddeddf 2006—
(a)bod ar y ffurf a nodir yn Atodlen 1, neu ar ffurf y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi, gyda’r mewnosodiadau neu’r hepgoriadau hynny sy’n angenrheidiol mewn achos penodol; a
(b)cael ei lofnodi—
(i)gan bob un o berchnogion y tir perthnasol sy’n unigolyn, neu gan gynrychiolydd iddo a awdurdodwyd yn briodol; a
(ii)gan ysgrifennydd neu ryw swyddog arall a awdurdodwyd yn briodol pob un o berchnogion y tir perthnasol sy’n gorff corfforaethol neu’n gymdeithas anghorfforedig.
(2) Rhaid i’r map y mae’n rhaid iddo fynd gyda’r datganiad yn unol ag adran 15A(3) o Ddeddf 2006 fod yn Fap Ordnans, ar raddfa o ddim llai nag 1:10,560, sy’n dangos ffin y tir perthnasol ag ymyl lliwiedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 3 mewn grym ar 22.10.2018, gweler rhl. 1(1)
4.—(1) Caiff yr awdurdod bennu ffi resymol am adneuo datganiad.
(2) Rhaid i’r perchennog perthnasol dalu unrhyw ffi a bennir yn unol â pharagraff (1) i’r awdurdod.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 4 mewn grym ar 22.10.2018, gweler rhl. 1(1)
5. Mae datganiad i’w ystyried fel pe bai wedi ei adneuo o dan adran 15A(1) o Ddeddf 2006 ar y diwrnod pan fydd y canlynol wedi dod i law’r awdurdod—
(a)datganiad sy’n cydymffurfio â rheoliad 3(1);
(b)map sy’n cydymffurfio â rheoliad 3(2); ac
(c)unrhyw ffi sy’n daladwy yn unol â rheoliad 4.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 5 mewn grym ar 22.10.2018, gweler rhl. 1(1)
6.—(1) Pan fo’r awdurdod yn ystyried na chydymffurfiwyd ag unrhyw un neu ragor o’r gofynion y cyfeirir atynt yn rheoliad 3 neu 4(2), rhaid iddo roi hysbysiad i’r perchennog perthnasol i’r perwyl hwnnw.
(2) Rhaid i hysbysiad o’r fath—
(a)nodi’r gofyniad o dan sylw; a
(b)nodi’r rhesymau pam y mae’r awdurdod yn ystyried na chydymffurfiwyd ag unrhyw ofyniad.
(3) Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cael datganiad yn unol â rheoliad 3(1), map yn unol â rheoliad 3(2) ac unrhyw ffi sy’n ofynnol gan reoliad 4, rhaid i’r awdurdod—
(a)anfon cydnabyddiaeth eu bod wedi dod i law at y perchennog perthnasol; a
(b)rhoi hysbysiad bod datganiad wedi ei adneuo (“hysbysiad adneuo”) yn unol â pharagraff (4).
(4) Rhaid i’r awdurdod—
(a)cyhoeddi hysbysiad adneuo ar ei wefan;
(b)cyflwyno hysbysiad adneuo i unrhyw berson sydd wedi gofyn yn flaenorol am gael ei hysbysu am bob datganiad sydd wedi ei adneuo gyda’r awdurdod ac sydd wedi rhoi cyfeiriad e-bost neu gyfeiriad post i’r awdurdod at y diben hwnnw;
(c)arddangos hysbysiad adneuo am 60 o ddiwrnodau o leiaf—
(i)wrth o leiaf un fynedfa amlwg i’r tir perthnasol, neu yn ei hymyl; neu
(ii)mewn unrhyw achos lle na cheir lleoedd o’r fath, mewn o leiaf un lle amlwg ar ffin neu yn ymyl ffin tir o’r fath.
(5) Rhaid i’r hysbysiadau sy’n ofynnol gan baragraff (4) fod ar y ffurf a nodir yn Atodlen 2, neu ar ffurf y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi, gyda’r mewnosodiadau neu’r hepgoriadau hynny sy’n angenrheidiol mewn lle penodol.
(6) Pan fo hysbysiad sy’n cael ei arddangos o dan baragraff (4)(c), heb unrhyw fai na bwriad ar ran yr awdurdod, yn cael ei dynnu, ei guddio neu ei ddifwyno cyn i’r cyfnod o 60 o ddiwrnodau ddod i ben, mae’r awdurdod i’w drin fel pe bai wedi cydymffurfio â gofynion y paragraff hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 6 mewn grym ar 22.10.2018, gweler rhl. 1(1)
7.—(1) Rhaid i’r gofrestr gynnwys—
(a)manylion cyswllt y person yn yr awdurdod y caniateir gwneud ymholiadau iddo ynghylch y gofrestr;
(b)mynegai i’r gofrestr; ac
(c)unrhyw wybodaeth arall y mae’r awdurdod yn ystyried ei bod yn briodol.
(2) Rhaid i’r gofrestr gynnwys yr wybodaeth a ganlyn mewn cysylltiad â phob map a datganiad a adneuir gyda’r awdurdod—
(a)copi o’r map ac unrhyw allwedd sy’n mynd gyda’r map neu’n ffurfio rhan ohono;
(b)copi o’r datganiad;
(c)enw a chyfeiriad y perchennog perthnasol, gan gynnwys ei god post;
(d)y dyddiad y cafodd y datganiad a’r map eu hadneuo gyda’r awdurdod;
(e)manylion y tir a amlinellir ar y map, gan gynnwys—
(i)cyfeirnod grid chwe ffigur yr Arolwg Ordnans o bwynt o fewn yr ardal a amlinellir;
(ii)enw’r ward etholiadol, y dosbarth neu’r gymuned y mae’r tir ynddo neu ynddi;
(iii)cyfeiriad a chod post yr adeiladau hynny ar y tir y neilltuwyd cod post iddynt; a
(iv)enw’r dref neu’r ddinas sydd agosaf at y pwynt y cyfeirir ato ym mharagraff (i).
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 7 mewn grym ar 22.10.2018, gweler rhl. 1(1)
8.—(1) Rhaid i’r gofrestr—
(a)cael ei chadw ar ffurf electronig ac ar bapur;
(b)cael ei chadw mewn rhannau fel bod pob rhan—
(i)yn ymwneud â thir o fewn ward etholiadol benodol, dosbarth penodol neu gymuned benodol; a
(ii)yn cynnwys yr wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 7.
(2) Rhaid i’r awdurdod gadw’r gofrestr mewn modd sy’n addas i alluogi i gopi o unrhyw fanylion sydd wedi eu cynnwys ar y gofrestr gael ei gymryd gan unrhyw berson, neu ar gyfer unrhyw berson, sy’n gofyn am gopi yn bersonol yn y swyddfa berthnasol.
(3) Rhaid i fersiwn bapur y gofrestr gael ei chadw yn y swyddfa berthnasol.
(4) Yn y rheoliad hwn ystyr “swyddfa berthnasol” (“relevant office”) yw—
(a)pan fo’r awdurdod wedi pennu swyddfa at ddiben y Rheoliadau hyn ar ei wefan, y swyddfa a bennwyd felly;
(b)fel arall, prif swyddfa’r awdurdod.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 8 mewn grym ar 22.10.2018, gweler rhl. 1(1)
9.—(1) Caiff yr awdurdod dynnu cofnod, neu unrhyw ran o gofnod, o’r gofrestr os yw wedi ei fodloni bod y map neu’r datganiad o dan sylw yn cynnwys camgymeriad perthnasol.
(2) Cyn tynnu cofnod o’r gofrestr, rhaid i’r awdurdod roi rhybudd o ddim llai na 28 o ddiwrnodau i’r perchennog perthnasol o’i fwriad i wneud hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Rhl. 9 mewn grym ar 22.10.2018, gweler rhl. 1(1)
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
19 Medi 2018
Rhagolygol
Rheoliad 3(1)(a)
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 1 mewn grym ar 22.10.2018, gweler rhl. 1(1)
Rheoliad 6(5)
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 2 mewn grym ar 22.10.2018, gweler rhl. 1(1)
Rhagolygol
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Caniateir i dir gael ei gofrestru fel maes tref neu bentref o dan yr amgylchiadau a bennir yn adran 15 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 (“Deddf 2006”). Un o nodweddion pob un o’r amgylchiadau hynny yw bod rhaid bod nifer sylweddol o drigolion unrhyw ardal leol, neu unrhyw gymdogaeth o fewn ardal leol, wedi cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau hamdden cyfreithlon ‘drwy hawl’ ar y tir o dan sylw am gyfnod o 20 mlynedd o leiaf.
Mae adran 15A(1) o Ddeddf 2006 yn caniatáu i berchennog tir o’r fath adneuo datganiad gyda’r awdurdod cofrestru tiroedd comin, ac effaith hyn yw dwyn i ben unrhyw gyfnod lle mae personau wedi cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau hamdden cyfreithlon drwy hawl ar y tir y mae’r datganiad yn ymwneud ag ef. Rhaid i fap fynd gyda’r datganiad.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad ag adneuo datganiadau o dan adran 15A(1) o Ddeddf 2006 a materion cysylltiedig.
Mae rheoliad 3 yn rhagnodi ffurf y datganiad y caniateir ei adneuo gyda’r awdurdod cofrestru tiroedd comin a ffurf y map y mae’n rhaid iddo fynd gyda’r datganiad.
Mae rheoliad 4 yn galluogi’r awdurdod cofrestru tiroedd comin i ragnodi ffi resymol mewn perthynas ag adneuo datganiad.
Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth sy’n ymwneud â phryd y mae datganiad i’w drin fel pe bai wedi ei adneuo gyda’r awdurdod cofrestru tiroedd comin.
Mae rheoliad 6 yn gwneud darpariaeth sy’n ymwneud â’r modd y mae’n rhaid i’r awdurdod cofrestru tiroedd comin reoli’r broses o adneuo datganiad, a rhoi cyhoeddusrwydd iddi.
Mae rheoliad 7 yn cynnwys gofynion sy’n ymwneud â gwybodaeth benodol y mae’n rhaid ei chynnwys yn y gofrestr sy’n ofynnol o dan adran 15B(1) o Ddeddf 2006.
Mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaeth sy’n ymwneud â’r modd y mae’n rhaid i’r awdurdod cofrestru tiroedd comin gadw’r gofrestr honno sy’n ofynnol o dan adran 15B(1) o Ddeddf 2006, gan gynnwys gofynion sy’n ymwneud â fersiynau papur a fersiynau electronig.
Mae rheoliad 9 yn gwneud darpariaeth sy’n caniatáu i’r awdurdod cofrestru tiroedd comin dynnu cofnod o’r gofrestr honno, neu unrhyw ran o gofnod, yn achos camgymeriad perthnasol, yn ddarostyngedig i hysbysiad blaenorol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
2006 p. 26. Mewnosodwyd adrannau 15A a 15B gan adran 15 o Ddeddf Twf a Seilwaith 2013 (p. 27). Diwygiwyd adran 15A gan adran 53 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4) (“Deddf 2015”). Gweler adrannau 15A(9) a 15B(5) am y diffiniad o “prescribed”. Gweler y diffiniadau o “regulations” ac “appropriate national authority” yn adran 61(1). Mae adran 55 o Ddeddf 2015, a pharagraff 9 o Atodlen 7 iddi, yn diwygio adran 61(1) fel bod “appropriate national authority” yn golygu Gweinidogion Cymru o ran Cymru.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys