- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Y Gorchymyn hwn yw’r gorchymyn cychwyn cyntaf a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”).
Mae erthygl 2 yn dwyn adran 30(6) (gwaith brys: estyn y cwmpas ac adennill costau) o Ddeddf 2016 i rym, i’r graddau y mae’n rhoi pŵer i wneud gorchmynion o dan Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990, drannoeth y diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn.
Mae erthygl 3 yn dwyn adran 34 (rhestr o enwau lleoedd hanesyddol) o Ddeddf 2016 i rym ar 8 Mai 2017.
Mae erthygl 4 yn dwyn yr adrannau a ganlyn o Ddeddf 2016 i rym ar 31 Mai 2017:
adran 4 (diwygiadau sy’n ymwneud â’r Gofrestr: darpariaeth ganlyniadol);
adran 25 (diwygiadau sy’n ymwneud â rhestru adeiladau dros dro);
adran 26 (diwygiadau sy’n ymwneud â rhestru adeiladau: darpariaeth ganlyniadol);
adran 35 (cofnodion amgylchedd hanesyddol);
adran 36 (mynediad i gofnodion amgylchedd hanesyddol); ac
adran 37 (canllawiau).
Mae erthygl 5 yn dwyn y darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2016 i rym, i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, ar 31 Mai 2017:
adran 3 (diwygiadau sy’n ymwneud â’r Gofrestr);
adran 5 (symleiddio’r broses);
adran 24 (diwygiadau sy’n ymwneud â rhestru adeiladau);
adran 30(6) (gwaith brys: estyn y cwmpas ac adennill costau);
Atodlen 1; ac
Atodlen 2.
Mae erthygl 6 yn cynnwys darpariaethau trosiannol.
Gweler adran 41 (dod i rym) o Ddeddf 2016 am ddarpariaethau a ddaeth i rym pan basiwyd Deddf 2016 ac ar ôl hynny.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys