- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer taliadau am wasanaethau a threuliau swyddogion canlyniadau mewn cysylltiad â chynnal etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2016 (O.S. 2016/417 (Cy. 133)) (“Gorchymyn 2016”). Fe’i gwneir o dan erthygl 23 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 (O.S. 2007/236). Mae erthygl 23 yn darparu bod hawl gan swyddog canlyniadau etholaeth neu swyddog canlyniadau rhanbarthol i adennill taliadau mewn perthynas â gwasanaethau a ddarparwyd neu dreuliau yr aed iddynt mewn cysylltiad ag etholiad Cynulliad.
Mae erthygl 3(2) yn diwygio erthygl 2 o Orchymyn 2016 drwy ddileu’r diffiniad o “etholiad comisiynydd heddlu a throseddu”.
Mae erthygl 3(3) yn diwygio erthyglau 4, 5(1), 6(1), 7, 8(1) a 9(1) o Orchymyn 2016 drwy ddileu cyfeiriadau at etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu (cyfeirir atynt yng Ngorchymyn 2016 fel etholiad comisiynydd heddlu a throseddu).
Fel y’i diwygiwyd, mae erthygl 4 o Orchymyn 2016 yn pennu mai’r cyfanswm cyffredinol mwyaf sy’n adenilladwy am etholiad etholaeth Cynulliad a ymleddir yw’r hyn a ddangosir yng ngholofn 4 y tabl yn Atodlen 1 i’r Gorchymyn hwnnw.
Fel y’i diwygiwyd, mae erthygl 5 o Orchymyn 2016 yn pennu mai’r cyfanswm mwyaf sy’n adenilladwy am wasanaethau mewn etholiad etholaeth Cynulliad a ymleddir yw’r hyn a ddangosir yng ngholofn 2 y tabl yn Atodlen 1 i’r Gorchymyn hwnnw.
Fel y’i diwygiwyd, mae erthygl 6 o Orchymyn 2016 yn pennu mai’r cyfanswm mwyaf sy’n adenilladwy am dreuliau mewn etholiad etholaeth Cynulliad a ymleddir yw’r hyn a ddangosir yng ngholofn 3 y tabl yn Atodlen 1 i’r Gorchymyn hwnnw.
Fel y’i diwygiwyd, mae erthygl 7 o Orchymyn 2016 yn pennu mai’r cyfanswm cyffredinol mwyaf sy’n adenilladwy am etholiad rhanbarthol y Cynulliad a ymleddir yw’r hyn a ddangosir yng ngholofn 4 y tabl yn Atodlen 2 i’r Gorchymyn hwnnw.
Fel y’i diwygiwyd, mae erthygl 8 o Orchymyn 2016 yn pennu mai’r cyfanswm mwyaf sy’n adenilladwy am wasanaethau mewn etholiad rhanbarthol y Cynulliad a ymleddir yw’r hyn a ddangosir yng ngholofn 2 y tabl yn Atodlen 2 i’r Gorchymyn hwnnw.
Fel y’i diwygiwyd, mae erthygl 9 o Orchymyn 2016 yn pennu mai’r cyfanswm mwyaf sy’n adenilladwy am dreuliau mewn etholiad rhanbarthol y Cynulliad a ymleddir yw’r hyn a ddangosir yng ngholofn 3 y tabl yn Atodlen 2 i’r Gorchymyn hwnnw.
Mae erthygl 3(3) o’r Gorchymyn hwn hefyd yn dileu’r cyfeiriadau at etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu ym mhenawdau erthyglau 4, 5, 6, 7, 8 a 9 o Orchymyn 2016 ac Atodlen 2 iddo.
Mae erthygl 3(4) yn amnewid Atodlen 1 i Orchymyn 2016. Mae’r tabl yn Atodlen 1 sydd wedi ei hamnewid yn rhestru’r cyfanswm cyffredinol mwyaf (colofn 4), a’r cyfansymiau mwyaf am wasanaethau (colofn 2) ac am dreuliau (colofn 3), sy’n adenilladwy gan swyddog canlyniadau etholaethol am etholiad a ymleddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, neu mewn cysylltiad ag etholiad o’r fath.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys