- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2015 (“Rheoliadau 2015”) yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ac sy’n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig mewn cysylltiad â blynyddoedd academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2015.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i Reoliadau 2015, a fydd yn gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2016. Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn cywiro gwallau teipograffyddol yn Rheoliadau 2015.
Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 2 o Reoliadau 2015 drwy fewnosod ym mharagraff (1) ddiffiniad o “cyfnod hawlogaeth” a “datganiad cymhwystra dilys”. Mae’r diffiniadau hyn yn ymwneud â’r diwygiadau a wneir i Reoliadau 2015 gan reoliadau 7 a 13.
Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 5 o Reoliadau 2015. Mae’n darparu y caiff Gweinidogion Cymru atal dros dro neu ddirymu dynodiad cwrs a wneir o dan reoliad 5 o Reoliadau 2015.
Mae rheoliad 5 yn cywiro gwall yn Rheoliadau 2015.
Mae rheoliad 6 yn diwygio rheoliad 12 o Reoliadau 2015. Mae’n caniatáu i Weinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr lofnodi contract sy’n ymwneud â benthyciad drwy ddefnyddio llofnod electronig.
Mae rheoliad 7 yn diwygio rheoliad 28 o Reoliadau 2015 sy’n ymwneud â chymhwystra i gael grant gofal plant. Ni fydd gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant gofal plant yn ystod unrhyw gyfnod pan fo myfyriwr cymwys neu bartner myfyriwr cymwys wedi gwneud datganiad cymhwystra dilys o dan Ddeddf Taliadau Gofal Plant 2014.
Mae rheoliad 8 yn cywiro gwall yn nhestun Saesneg Rheoliadau 2015.
Mae rheoliad 9 yn diwygio darpariaethau sy’n ymwneud â gordaliadau yn rheoliad 67 o Reoliadau 2015. At ddibenion rheoliad 67, mae person i gael ei drin fel myfyriwr cymwys er nad yw’n bodloni’r meini prawf cymhwystra perthnasol yn Rheoliadau 2015.
Mae rheoliad 10 yn diwygio rheoliad 71 o Reoliadau 2015. Mae’n darparu ar gyfer atal dros dro neu ddirymu dynodiad cwrs o dan reoliad 71.
Mae rheoliad 11 yn diwygio darpariaethau sy’n ymwneud â gordaliadau yn rheoliad 85 o Reoliadau 2015. Mae effaith y diwygiad hwn yn debyg i reoliad 9.
Mae rheoliad 12 yn diwygio rheoliad 88 o Reoliadau 2015. Er mwyn i gyrsiau rhan-amser penodol gael eu dynodi fel cyrsiau sy’n gymwys i gael cymorth i fyfyrwyr, rhaid i gwrs arwain at ddyfarniad a roddir gan gorff sydd wedi ei awdurdodi i ddyfarnu graddau gan Siarter Frenhinol, o dan Ddeddf neu gan gorff arall y caniateir iddo weithredu ar ran corff o’r fath. Mae rheoliad 12 hefyd yn darparu ar gyfer atal dros dro neu ddirymu dynodiad cwrs o dan reoliad 88.
Mae rheoliad 13 yn diwygio rheoliad 97 o Reoliadau 2015 (grant rhan-amser ar gyfer gofal plant). Mae effaith y newid yn debyg i’r diwygiadau a wneir gan reoliad 7 sy’n ymwneud â chymhwystra myfyrwyr llawnamser i gael grant gofal plant.
Mae rheoliad 14 yn cywiro gwallau yn Rheoliadau 2015.
Mae rheoliad 15 yn diwygio darpariaethau sy’n ymwneud â gordaliadau yn rheoliad 114 o Reoliadau 2015. Mae effaith y diwygiad hwn yn debyg i’r rheini yn rheoliad 9.
Mae rheoliad 16 yn cywiro gwall yn nhestun Saesneg Rheoliadau 2015 ac yn darparu ar gyfer atal dros dro neu ddirymu dynodiad cwrs o dan reoliad 117 o Reoliadau 2015.
Mae rheoliad 17 yn diwygio darpariaethau sy’n ymwneud â gordaliadau yn rheoliad 124 o Reoliadau 2015. Mae effaith y diwygiad hwn yn debyg i’r rheini yn rheoliad 9.
Mae rheoliad 18 yn cyflwyno’r Atodlen. Mae’r Atodlen yn amnewid amryw ffigurau yn rheoliadau 17, 19, 21, 46, 47, 48, 49, 50 ac 61 o Reoliadau 2015.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys