- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth i orfodi, yng Nghymru, ddarpariaethau penodol yn Rheoliad (EU) Rhif 609/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch bwyd a fwriedir ar gyfer babanod a phlant ifanc, bwyd at ddibenion meddygol arbennig, ac amnewid deiet yn llwyr er mwyn rheoli pwysau ac sy’n diddymu Cyfarwyddeb y Cyngor 92/52/EEC, Cyfarwyddebau’r Comisiwn 96/8/EC, 1999/21/EC, 2006/125/EC a 2006/141/EC, Cyfarwyddeb 2009/39/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor a Rheoliadau’r Comisiwn (EC) Rhif 41/2009 ac (EC) Rhif 953/2009 (OJ Rhif L 181, 29.6.2013, t. 35) (“Rheoliad (EU) 609/2013”).
Mae Rheoliad (EU) 609/2013 yn diddymu ac yn disodli cyfundrefn sy’n rheoleiddio (yn bennaf, ond heb fod yn gyfyngedig i) gofynion cyfansoddiadol a labelu y mae rhaid i grwpiau penodol o fwyd eu bodloni cyn y caiff bwyd o’r fath gael ei farchnata mewn Aelod-wladwriaethau. Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gorfodi darpariaethau penodol yn Rheoliad (EU) Rhif 609/2013 ac yn darparu ar gyfer cyfundrefn gorfodi hysbysiadau gwella ochr yn ochr â sancsiynau troseddol domestig presennol yn Rheoliadau Bwydydd y Bwriedir eu Defnyddio mewn Deietau Egni Cyfyngedig at Golli Pwysau 1997, Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000, Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi’u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Cymru) 2004, Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2007 a Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2009.
Mae rheoliad 4 ac Atodlen 2 yn cymhwyso, gydag addasiadau, ddarpariaethau penodol yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 (“y Ddeddf”). Mae hyn yn cynnwys cymhwyso (gydag addasiadau) adran 10(1) o’r Ddeddf, sy’n galluogi i hysbysiad gwella gael ei gyflwyno sy’n gwneud cydymffurfedd â gofyniad UE penodedig yn Rheoliad (EU) Rhif 609/2013 yn ofynnol. Mae’r gofynion penodedig wedi eu rhestru yn Atodlen 1. Mae’r darpariaethau, fel y maent yn cael eu cymhwyso a’u haddasu, yn gwneud methu â chydymffurfio â hysbysiad gwella yn drosedd.
Mae Atodlen 3 yn diwygio offerynnau statudol sy’n gymwys i’r maes rheoleiddio hwn i alluogi i hysbysiad gwella gael ei gyflwyno sy’n gwneud cydymffurfedd â rheoliadau perthnasol yn ofynnol. Mae’r darpariaethau, fel y maent yn cael eu cymhwyso a’u haddasu yn yr offerynnau statudol, yn gwneud methu â chydymffurfio â hysbysiad gwella yn drosedd.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys