- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Hwn yw’r ail orchymyn cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 (“Deddf 2015”).
Mae erthygl 2 yn dwyn adran 38(3) o Ddeddf 2015 i rym, at bob diben, drannoeth y diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn. Mae adran 38(3) yn ymwneud â phŵer Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau o dan adran 38(2)(b). Mae adran 38(3) yn darparu y caiff rheoliadau o dan adran 38(2)(b) (ymhlith pethau eraill) ddiwygio neu gymhwyso, gydag addasiadau neu hebddynt, unrhyw ddarpariaeth a wneir gan neu o dan adrannau 41 i 44 o Ddeddf 2015.
Mae erthygl 2 hefyd yn dwyn adran 52(1) o Ddeddf 2015 i rym, at bob diben sy’n weddill, drannoeth y diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn. O dan adran 52(1), rhaid i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (“CCAUC”) lunio a chyhoeddi datganiad sy’n nodi sut y mae’n bwriadu arfer ei swyddogaethau ymyrryd (fel y’u disgrifir yn adran 52(5)).
Mae erthygl 3 yn dwyn adran 38(1) o Ddeddf 2015 i rym, at bob diben, ar 1 Awst 2016. Mae adran 38(1) yn darparu, os yw CCAUC wedi ei fodloni nad yw sefydliad rheoleiddiedig bellach o fewn adran 2(3) o Ddeddf 2015, fod rhaid iddo dynnu’n ôl ei gymeradwyaeth i’r cynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â’r sefydliad drwy roi hysbysiad o dan adran 38 i gorff llywodraethu’r sefydliad.
Mae erthygl 3 hefyd yn dwyn adran 40 o Ddeddf 2015 i rym, at bob diben sy’n weddill, ar 1 Awst 2016. Mae adran 40(1) yn darparu, os yw CCAUC yn rhoi hysbysiad o dan adran 37, 38 neu 39 o Ddeddf 2015, fod rhaid iddo roi copi o’r hysbysiad i Weinidogion Cymru a chyhoeddi’r hysbysiad.
Mae erthygl 4 yn dwyn adran 27(1) o Ddeddf 2015 i rym, at bob diben sy’n weddill, ar 1 Medi 2016. Mae adran 27(1) yn darparu bod rhaid i CCAUC lunio a chyhoeddi cod sy’n ymwneud â threfnu a rheoli materion ariannol sefydliadau rheoleiddiedig.
Mae erthygl 4 hefyd yn dwyn adrannau 27(5) a (6) a 30 o Ddeddf 2015 i rym, at bob diben, ar 1 Medi 2016. Mae adran 27(5) yn darparu y caiff CCAUC gyhoeddi’r cod ym mha ffordd bynnag sy’n briodol yn ei farn ef. O dan adran 27(6), rhaid i CCAUC adolygu’r cod yn gyson a llunio a chyhoeddi cod diwygiedig, os yw hynny’n briodol yn ei farn ef. Cyn cyhoeddi’r cod cyntaf neu god diwygiedig, rhaid i CCAUC lunio drafft o’r cod a chyflwyno’r drafft i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo. Mae adran 30 o Ddeddf 2015 yn darparu, os yw Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo drafft o’r cod a gyflwynir iddynt, fod rhaid iddynt osod y drafft a gymeradwywyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad”). Os yw’r Cynulliad yn penderfynu peidio â chymeradwyo’r drafft o fewn y cyfnod o 40 niwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod y gosodir y drafft gerbron y Cynulliad, ni chaiff CCAUC gyhoeddi’r drafft. Os na chaiff penderfyniad ei basio gan y Cynulliad o fewn y cyfnod o 40 niwrnod, rhaid i CCAUC gyhoeddi’r cod yn nhelerau’r drafft a gymeradwywyd.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys