- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1379 (Cy. 122)) (“Gorchymyn 2010”) a Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2011 (O.S. 2011/692 (Cy. 104)) (“Gorchymyn 2011”). Mae’n galluogi Gweinidogion Cymru i gymeradwyo milfeddygon i gynnal profion diagnostig penodol ar gyfer twbercwlosis (profion perthnasol) ar anifeiliaid buchol, ac anifeiliaid nad ydynt yn anifeiliaid buchol, ac i archwilio a marcio’r anifeiliaid hynny. Mae’n darparu ar gyfer gofynion awtomatig i fod yn gymwys i geidwad pan fo prawf perthnasol yn datgelu adweithydd neu adweithydd amhendant.
Mae erthyglau 2(2) a 3(2) yn cyflwyno i Orchmynion 2010 a 2011, yn y drefn honno, ddiffiniad newydd o “milfeddyg cymeradwy” ac yn diwygio’r diffiniad o “prawf perthnasol”.
Mae erthyglau 2(3) a 3(3) yn darparu i Weinidogion Cymru gymeradwyo milfeddygon.
Mae erthygl 2(4) yn diwygio erthygl 12 o Orchymyn 2010, ac mae erthygl 3(4) yn diwygio erthygl 9 o Orchymyn 2011, drwy fewnosod—
(a)paragraff newydd yn lle paragraff (3) sy’n nodi’r amgylchiadau pan fo’r gofynion a nodir ym mharagraff (3A) yn gymwys i’r ceidwad;
(b)paragraff (3B) newydd sy’n darparu ar gyfer arolygydd i ddiwygio neu i ddatgymhwyso gofynion penodol drwy hysbysiad ar unrhyw adeg;
(c)paragraff (8) newydd sy’n darparu ar gyfer adrodd ar ganlyniad prawf nad yw’n negyddol i Weinidogion Cymru.
Mae erthygl 2(5) yn galluogi milfeddyg cymeradwy i gynnal profion cyn symud ar anifeiliaid buchol.
Mae erthyglau 2(7) a 3(6) yn galluogi milfeddyg cymeradwy i farcio, neu roi cyfarwyddyd i’r ceidwad farcio, anifeiliaid buchol ac anifeiliaid nad ydynt yn anifeiliaid buchol, yn y drefn honno.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys