Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 2013

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

1.  Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys i Gymru, yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliadau canlynol yr UE—

(a)Rheoliad (EC) Rhif 2065/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch cyflasynnau mwg a ddefnyddir neu a fwriedir i’w defnyddio mewn bwydydd neu arnynt (OJ Rhif L309, 26.11.2003, t.1);

(b)Rheoliad (EC) Rhif 1332/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch ensymau bwyd (OJ Rhif L354, 31.12.2008, t.7);

(c)Rheoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch ychwanegion bwyd (OJ Rhif L354, 31.12.2008, t.16);

(d)Rheoliad (EC) Rhif 1334/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch cyflasynnau a chynhwysion bwyd penodol ac iddynt briodweddau cyflasyn i’w defnyddio mewn bwydydd ac arnynt (OJ Rhif L354, 31.12.2008, t.34).

2.  Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn gweithredu Cyfarwyddeb 2009/32/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch cyd-ddynesiad cyfreithiau’r Aelod-wladwriaethau ynghylch toddyddion echdynnu a ddefnyddir wrth gynhyrchu deunyddiau bwyd a chynhwysion bwyd (OJ Rhif L141, 6.6.2009, t.3).

3.  Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, y Rheoliadau a ganlyn—

(a)Rheoliadau Toddyddion Echdynnu mewn Bwyd 1993 (O.S. 1993/1658);

(b)Rheoliadau Cyflasynnau Mwg (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1350 (Cy.98));

(c)Rheoliadau Bwyd (Atal Defnyddio E 128 Red 2G fel Lliw Bwyd) (Cymru) (Rhif 2) 2007 (O.S. 2007/23315 (Cy.186));

(d)Rheoliadau Ensymau Bwyd (Cymru) 2009 (O.S. 2009/3377 (Cy.299));

(e)Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2009 (O.S. 2009/3378 (Cy.300));

(f)Rheoliadau Cyflasynnau mewn Bwyd (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1198 (Cy.2922)).

4.  Mae’r Rheoliadau hyn, yn Rhan 2, yn darparu mai trosedd, yn ddarostyngedig i unrhyw drefniadau trosiannol sy’n gymwys, yw torri gofynion penodol yn y canlynol neu ddefnyddio cynnyrch neu osod ar y farchnad gynnyrch sy’n torri gofynion penodol yn y canlynol—

(a)Rheoliad (EC) Rhif 1333/2008 ynghylch ychwanegion bwyd (rheoliad 3 a Thabl 1 o Atodlen 1);

(b)Rheoliad (EC) Rhif 1334/2008 ynghylch cyflasynnau bwyd a bwydydd ac iddynt briodweddau cyflasyn (rheoliad 4 a Thabl 1 o Atodlen 2);

(c)Rheoliad (EC) Rhif 2065/2003 ynghylch cyflasynnau mwg (rheoliad 5 a Thabl 1 o Atodlen 3); a

(d)Rheoliad (EC) Rhif 1332/2008 ynghylch ensymau bwyd (rheoliad 6 a Thabl 1 o Atodlen 4).

5.  Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn darparu yn Rhan 2 y caiff swyddog awdurdodedig o awdurdod gorfodi, yn achos mathau penodol o ddiffyg cydymffurfio, o ran labelu, gyflwyno hysbysiad gwella sy’n ei gwneud yn ofynnol i gamau penodol gael eu cymryd, ac yn niffyg hynny y bydd trosedd wedi ei gyflawni (rheoliad 7 a Thabl 2 o Atodlenni 1 i 4). Caiff person y cyflwynir hysbysiad gwella iddo apelio yn ei erbyn i lys ynadon (rheoliad 8).

6.  Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb 2009/32/EC ynghylch toddyddion echdynnu, drwy wneud y canlynol yn benodol—

(a)pennu’r amgylchiadau lle nad yw’r rheolaethau ar doddyddion echdynnu yn gymwys (rheoliad 10);

(b)diffinio beth yw toddydd echdynnu a ganiateir (rheoliad 11);

(c)gwahardd unrhyw berson rhag defnyddio toddydd echdynnu heblaw toddydd echdynnu a ganiateir, fel y’i diffinnir, wrth gynhyrchu bwyd (rheoliad 12);

(d)gwahardd unrhyw berson rhag gosod ar y farchnad doddydd echdynnu nad yw’n doddydd echdynnu a ganiateir neu nad oes gwybodaeth benodol yn cyd-fynd ag ef ar y pecyn, y cynhwysydd neu’r label (rheoliadau 13 a 14).

7.  Mae’r Rheoliadau hyn yn Rhan 4 —

(a)yn dynodi’r Asiantaeth Safonau Bwyd fel yr awdurdod cymwys at ddibenion ceisiadau am awdurdodi cyflasyn mwg (rheoliad 15);

(b)yn rhoi’r ddyletswydd o orfodi’r Rheoliadau hyn i awdurdodau bwyd (rheoliad 16);

(c)yn darparu ar gyfer y gosb uchaf y gall person fod yn agored iddi o’i gollfarnu am drosedd o dan y Rheoliadau hyn (rheoliad 17);

(d)yn darparu, lle’r ardystir bod bwyd yn fwyd y mae’n drosedd ei osod ar y farchnad, y trinnir y bwyd at ddibenion adran 9 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 fel petai’n methu â chydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd (rheoliad 18); ac

(e)yn cymhwyso, ag addasiadau penodol, amryw o ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990 at ddibenion y Rheoliadau hyn (rheoliad 19).

8.  Mae’r Rheoliadau hyn yn Rhan 5 —

(a)yn gwneud mân ddiwygiad i Reoliadau Labelu Bwyd 1996 (rheoliad 20); a

(b)yn dirymu offerynnau penodol yn gyfan gwbl neu’n rhannol (rheoliad 21 ac Atodlen 5).

9.  Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill