Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 31/10/2013.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 2013. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
1. Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys i Gymru, yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliadau canlynol yr UE—LL+C
(a)Rheoliad (EC) Rhif 2065/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch cyflasynnau mwg a ddefnyddir neu a fwriedir i’w defnyddio mewn bwydydd neu arnynt (OJ Rhif L309, 26.11.2003, t.1);
(b)Rheoliad (EC) Rhif 1332/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch ensymau bwyd (OJ Rhif L354, 31.12.2008, t.7);
(c)Rheoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch ychwanegion bwyd (OJ Rhif L354, 31.12.2008, t.16);
(d)Rheoliad (EC) Rhif 1334/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch cyflasynnau a chynhwysion bwyd penodol ac iddynt briodweddau cyflasyn i’w defnyddio mewn bwydydd ac arnynt (OJ Rhif L354, 31.12.2008, t.34).
2. Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn gweithredu Cyfarwyddeb 2009/32/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch cyd-ddynesiad cyfreithiau’r Aelod-wladwriaethau ynghylch toddyddion echdynnu a ddefnyddir wrth gynhyrchu deunyddiau bwyd a chynhwysion bwyd (OJ Rhif L141, 6.6.2009, t.3).LL+C
3. Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, y Rheoliadau a ganlyn—LL+C
(a)Rheoliadau Toddyddion Echdynnu mewn Bwyd 1993 (O.S. 1993/1658);
(b)Rheoliadau Cyflasynnau Mwg (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1350 (Cy.98));
(c)Rheoliadau Bwyd (Atal Defnyddio E 128 Red 2G fel Lliw Bwyd) (Cymru) (Rhif 2) 2007 (O.S. 2007/23315 (Cy.186));
(d)Rheoliadau Ensymau Bwyd (Cymru) 2009 (O.S. 2009/3377 (Cy.299));
(e)Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2009 (O.S. 2009/3378 (Cy.300));
(f)Rheoliadau Cyflasynnau mewn Bwyd (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1198 (Cy.2922)).
4. Mae’r Rheoliadau hyn, yn Rhan 2, yn darparu mai trosedd, yn ddarostyngedig i unrhyw drefniadau trosiannol sy’n gymwys, yw torri gofynion penodol yn y canlynol neu ddefnyddio cynnyrch neu osod ar y farchnad gynnyrch sy’n torri gofynion penodol yn y canlynol—LL+C
(a)Rheoliad (EC) Rhif 1333/2008 ynghylch ychwanegion bwyd (rheoliad 3 a Thabl 1 o Atodlen 1);
(b)Rheoliad (EC) Rhif 1334/2008 ynghylch cyflasynnau bwyd a bwydydd ac iddynt briodweddau cyflasyn (rheoliad 4 a Thabl 1 o Atodlen 2);
(c)Rheoliad (EC) Rhif 2065/2003 ynghylch cyflasynnau mwg (rheoliad 5 a Thabl 1 o Atodlen 3); a
(d)Rheoliad (EC) Rhif 1332/2008 ynghylch ensymau bwyd (rheoliad 6 a Thabl 1 o Atodlen 4).
5. Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn darparu yn Rhan 2 y caiff swyddog awdurdodedig o awdurdod gorfodi, yn achos mathau penodol o ddiffyg cydymffurfio, o ran labelu, gyflwyno hysbysiad gwella sy’n ei gwneud yn ofynnol i gamau penodol gael eu cymryd, ac yn niffyg hynny y bydd trosedd wedi ei gyflawni (rheoliad 7 a Thabl 2 o Atodlenni 1 i 4). Caiff person y cyflwynir hysbysiad gwella iddo apelio yn ei erbyn i lys ynadon (rheoliad 8).LL+C
6. Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb 2009/32/EC ynghylch toddyddion echdynnu, drwy wneud y canlynol yn benodol—LL+C
(a)pennu’r amgylchiadau lle nad yw’r rheolaethau ar doddyddion echdynnu yn gymwys (rheoliad 10);
(b)diffinio beth yw toddydd echdynnu a ganiateir (rheoliad 11);
(c)gwahardd unrhyw berson rhag defnyddio toddydd echdynnu heblaw toddydd echdynnu a ganiateir, fel y’i diffinnir, wrth gynhyrchu bwyd (rheoliad 12);
(d)gwahardd unrhyw berson rhag gosod ar y farchnad doddydd echdynnu nad yw’n doddydd echdynnu a ganiateir neu nad oes gwybodaeth benodol yn cyd-fynd ag ef ar y pecyn, y cynhwysydd neu’r label (rheoliadau 13 a 14).
7. Mae’r Rheoliadau hyn yn Rhan 4 —LL+C
(a)yn dynodi’r Asiantaeth Safonau Bwyd fel yr awdurdod cymwys at ddibenion ceisiadau am awdurdodi cyflasyn mwg (rheoliad 15);
(b)yn rhoi’r ddyletswydd o orfodi’r Rheoliadau hyn i awdurdodau bwyd (rheoliad 16);
(c)yn darparu ar gyfer y gosb uchaf y gall person fod yn agored iddi o’i gollfarnu am drosedd o dan y Rheoliadau hyn (rheoliad 17);
(d)yn darparu, lle’r ardystir bod bwyd yn fwyd y mae’n drosedd ei osod ar y farchnad, y trinnir y bwyd at ddibenion adran 9 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 fel petai’n methu â chydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd (rheoliad 18); ac
(e)yn cymhwyso, ag addasiadau penodol, amryw o ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990 at ddibenion y Rheoliadau hyn (rheoliad 19).
8. Mae’r Rheoliadau hyn yn Rhan 5 —LL+C
(a)yn gwneud mân ddiwygiad i Reoliadau Labelu Bwyd 1996 (rheoliad 20); a
(b)yn dirymu offerynnau penodol yn gyfan gwbl neu’n rhannol (rheoliad 21 ac Atodlen 5).
9. Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.LL+C
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys