- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y GYMRAEG, CYMRU
Gwnaed
7 Mawrth 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
9 Mawrth 2012
Yn dod i rym
1 Ebrill 2012
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 138 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mesur y Gymraeg (Buddiannau Cofrestradwy) 2012.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 1 Ebrill 2012.
2. Mae'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn pennu buddiannau cofrestradwy deiliaid swydd perthnasol at ddibenion Pennod 1 o Ran 8 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
7 Mawrth 2012
Rheoliad 2
Yn yr Atodlen hon—
ystyr “aelod o deulu” (“family member”) mewn perthynas â deiliad swydd perthnasol yw partner y deiliad swydd perthnasol ac unrhyw blentyn;
ystyr “eiddo perthnasol” (“relevant property”) yw tir neu eiddo deallusol y mae gan y Comisiynydd fuddiant ynddo lle bo'r buddiant hwnnw wedi ei gaffael drwy arian a ddarparwyd gan Weinidogion Cymru dan baragraff 14 o Atodlen 1 i'r Mesur;
ystyr “Mesur” (“Measure”) yw Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011;
ystyr “partner” (“partner”) yw priod, partner sifil neu un o gwpl boed hynny o'r un rhyw neu o'r rhyw arall sy'n byw gyda'i gilydd, er nad ydynt yn briod, ac sy'n trin ei gilydd fel dau briod;
ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) yw person sydd o fewn Atodlen 6 neu 8 i'r Mesur (boed hynny fel unigolyn neu fel rhan o grŵp o bersonau); ac
ystyr “plentyn” (“child”) yw unrhyw berson sydd, pan gofrestrir y buddiant, naill ai yn—
plentyn i'r deiliad swydd perthnasol;
llysblentyn i'r deiliad swydd perthnasol drwy briodas neu bartneriaeth sifil;
person sydd wedi ei fabwysiadu'n gyfreithiol gan ddeiliad swydd perthnasol;
person sydd wedi ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gyda'r deiliad swydd perthnasol; neu
person sy'n iau nag un ar bymtheng mlwydd oed, neu'n iau na phedair ar bymtheng mlwydd oed ac yn derbyn addysg amser-llawn, ac sydd am y chwe mis calendr blaenorol wedi cael cefnogaeth ariannol gan y deiliad swydd perthnasol.
Dyma'r buddiannau y cyfeirir atynt yn rheoliad 2—
(a)manylion unrhyw swydd neu gyflogaeth a ddelir gan aelod o deulu deliad swydd perthnasol gyda pherson perthnasol;
(b)manylion unrhyw fuddiant sydd gan ddeiliad swydd perthnasol neu aelod o deulu deiliad swydd perthnasol mewn eiddo perthnasol;
(c)enwau cwmnïau neu gyrff eraill y mae gan ddeiliad swydd perthnasol, naill ai ar ei ben ei hun neu gydag aelod o'i deulu, neu ar ran aelod o'i deulu, fuddiant llesiannol mewn cyfranddaliadau; a
(d)swyddi cyfarwyddwyr am dâl a ddelir gan ddeiliad swydd perthnasol mewn unrhyw gwmni, gan gynnwys swyddi cyfarwyddwyr na thelir tâl iddynt yn unigol ond lle telir tâl drwy gwmni arall yn yr un grŵp.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae adrannau 134 i 139 o Bennod 1 o Ran 8 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (“y Mesur”) yn gwneud darpariaeth ynghylch uniondeb cymeriad Comisiynydd y Gymraeg (“y Comisiynydd”) a Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg (“y Dirprwy Gomisiynydd”).
Mae adran 134 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiynydd a'r Dirprwy Gomisiynydd (a ddiffinnir at ddibenion Pennod 1 o Ran 8 o'r Mesur fel “deiliaid swydd perthnasol”) greu a chynnal cofrestr buddiannau. Rhaid i gofrestr buddiannau deiliad swydd perthnasol gynnwys ei holl fuddiannau cofrestradwy.
Mae adran 138 yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, bennu pa fuddiannau sy'n fuddiannau cofrestradwy at ddibenion Pennod 1 o Ran 8 o'r Mesur.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn gan ddibynnu ar y pŵer a ddarparwyd gan adran 138 o'r Mesur. Mae rheoliad 2 yn cyflwyno'r Atodlen i'r Rheoliadau, sydd yn pennu buddiannau cofrestradwy deiliaid swyddi perthnasol
Ni pharatowyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer y Rheoliadau hyn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys