Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Arolygon Etholiadau Lleol (Cymru) 2012

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae adran 1 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn gosod dyletswydd ar awdurdod lleol (cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol), yn unol â rheoliadau, i gynnal arolwg ar ôl pob etholiad cyffredin i gyngor y sir neu fwrdeistref sirol ac i bob cyngor cymuned (a gynhelir fel rheol ar yr un pryd bob pedair blynedd) yn ardal yr awdurdod lleol.

Rhaid i awdurdod lleol gynnal yr arolwg drwy ofyn cwestiynau rhagnodedig i gynghorwyr ac i ymgeiswyr aflwyddiannus sydd wedi ymgeisio am gael eu hethol yn gynghorwyr yn ardal yr awdurdod lleol.

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi'r cwestiynau y mae'n rhaid i awdurdod lleol eu gofyn wrth gynnal arolwg etholiad lleol. Mae'r cwestiynau rhagnodedig a'r ffurf y caniateir eu gofyn ynddi wedi eu dangos yn yr Atodlen i'r Rheoliadau.

Mae'r cwestiynau rhagnodedig yn ymwneud â rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, iaith, hil, oedran, anabledd, crefydd neu gred, iechyd, addysg a chymwysterau, cyflogaeth, gwaith fel cynghorydd, ymlyniad at blaid wleidyddol, cysylltiadau gyda'r trydydd sector, a hyd gweithgarwch gwleidyddol.

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi bod yn rhaid i'r wybodaeth a gafwyd o'r arolwg gael ei chrynhoi mewn taenlen electronig. Bydd manylion ynglŷn â'r daenlen yn cael eu cynnwys mewn canllawiau.

Yn ychwanegol at hynny, mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi mai'r modd y mae'n rhaid i'r wybodaeth a grynhowyd gael ei darparu i Weinidogion Cymru yw drwy daenlen electronig.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill