Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain (Hysbysebu a Masnachu) (Cymru) 2012

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Dehongli'r Rhan hon

5.—(1Yn y Rhan hon—

mae “arddangos hysbyseb” (“displaying an advertisement”) yn cynnwys (heb leihau effaith yr ymadrodd hwnnw'n gyffredinol)—

(a)

taflunio, allyrru neu sgrinio hysbyseb neu ei rhoi ar ddangos,

(b)

cario neu ddal hysbyseb neu gyfarpar a ddefnyddir i arddangos hysbyseb,

(c)

darparu bod—

(i)

hysbyseb yn cael ei harddangos ar anifail, neu

(ii)

cyfarpar a ddefnyddir i arddangos hysbyseb yn cael ei gario neu ei ddal gan anifail,

(ch)

gwneud un neu fwy o'r canlynol fel rhan o ymgyrch marchnata rhagod—

(i)

cario neu ddal eiddo personol y mae hysbyseb wedi ei harddangos arno,

(ii)

gwisgo gwisg hysbysebu,

(iii)

arddangos hysbyseb ar gorff unigolyn;

ystyr “corff di-elw” (“not-for-profit body”) yw corff sydd, yn rhinwedd ei gyfansoddiad neu unrhyw ddeddfiad—

(a)

yn un y mae'n ofynnol iddo (ar ôl talu alldaliadau) ddefnyddio'r cyfan o'i incwm, ac unrhyw gyfalaf y mae'n ei wario, at ddibenion elusennol neu gyhoeddus, a

(b)

wedi ei wahardd rhag dosbarthu'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol ymhlith ei aelodau unrhyw ran o'i asedau (ac eithrio at ddibenion elusennol neu gyhoeddus);

ystyr “deunydd hyrwyddo” (“promotional material”) yw dogfen neu eitem a ddosberthir neu a ddarperir yn gyfan gwbl neu'n rhannol er mwyn hyrwyddo, hysbysebu, cyhoeddi neu gyfarwyddo;

ystyr “gweithgaredd hysbysebu” (“advertising activity”) yw—

(a)

arddangos hysbyseb, neu

(b)

dosbarthu neu ddarparu deunydd hyrwyddo;

ystyr “gwisg hysbysebu” (“advertising attire”) yw—

(a)

trwsiad sy'n hysbyseb, neu

(b)

dilledyn y mae hysbyseb wedi ei harddangos arno;

ystyr “hysbyseb” (“advertisement”) yw unrhyw air, llythyren, delwedd, marc, sain, golau, model, arwydd, hysbyslen, bwrdd, hysbysiad, sgrîn, cysgodlen, bleind, baner, dyfais, trwsiad neu ddarluniad, p'un a yw'n oleuedig ai peidio, sydd o ran ei natur yn hyrwyddo, yn hysbysebu, yn cyhoeddi neu'n cyfarwyddo ac yn cael ei ddefnyddio neu ei defnyddio'n gyfan gwbl neu'n rhannol er mwyn gwneud hynny;

ystyr “hysbysebwr” (“advertiser”) yw person sy'n ymhel â gweithgaredd hysbysebu; ac

ystyr “ymgyrch marchnata rhagod” (“ambush marketing campaign”) yw ymgyrch (p'un a yw'n un weithred neu'n gyfres o weithredoedd) sydd wedi ei bwriadu'n benodol i hyrwyddo, hysbysebu, cyhoeddi neu gyfarwyddo un neu fwy o'r canlynol o fewn parth digwyddiadau yn ystod cyfnod digwyddiad—

(a)

nwyddau neu wasanaethau,

(b)

person sy'n darparu nwyddau neu wasanaethau.

(2Yn y Rhan hon, mae cyfeiriad at berson sy'n ymhel â gweithgaredd hysbysebu i'w drin fel cyfeiriad sy'n cynnwys person y mae rheoliad 6(2) yn gymwys iddo.

(3Nid yw gweithgaredd hysbysebu sy'n cynnwys arddangos hysbyseb ar ddyfais gyfathrebu bersonol i'w drin fel gweithgaredd hysbysebu at ddibenion y Rhan hon onid yw'r hysbysebwr yn bwriadu bod yr hysbyseb yn cael ei harddangos, drwy gyfrwng y ddyfais, i'r cyhoedd yn gyffredinol (yn hytrach na'i harddangos i neb ond yr unigolyn sy'n defnyddio'r ddyfais).

(4Ym mharagraff (3), ystyr “dyfais gyfathrebu bersonol” (“personal communication device”) yw ffôn symudol neu ddyfais gyfathrebu ryngweithiol bersonol arall.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill