- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 1989 (O.S.1989/1058) (“y Rheoliadau Rhestrau Lleol”) a'r Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Canolog) 1989 (O.S.1989/2260) (“y Rheoliadau Rhestru Canolog”) i wneud darpariaeth ar gyfer taliadau gohiriedig. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud addasiadau canlyniadol i Reoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993.
Mae'r Rheoliadau Rhestrau Lleol a'r Rheoliadau Rhestrau Canolog yn darparu ar gyfer diwallu'r rhwymedigaeth ardrethi flynyddol mewn rhandaliadau. Hyd 2009 yr oedd y rhandaliadau yn daladwy yn y flwyddyn ariannol yr oedd y galwad am dalu yn berthynol iddi. Yr oedd Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Taliadau Gohiriedig) (Cymru) 2009 (O.S.2009/2154 (Cy.179)) (“Rheoliadau 2009”) yn gwneud darpariaeth arbennig ynglŷn â chasglu ardrethi annomestig a oedd yn daladwy mewn cysylltiad â'r flwyddyn ariannol a oedd yn cychwyn ar 1 Ebrill 2009.
Mewnosododd Rheoliadau 2009 Atodlen 1D newydd yn y Rheoliadau Rhestrau Lleol ac Atodlen 1B newydd yn y Rheoliadau Rhestrau Canolog i ddarparu y byddai trethdalwr a oedd yn ddarostyngedig i ardrethi annomestig mewn cysylltiad â blwyddyn ariannol 2009/10, ac yn bodloni amodau penodol, yn cael gohirio talu cyfran benodedig o'r rhwymedigaeth honno tan y blynyddoedd ariannol a oedd yn cychwyn ar 1 Ebrill 2010 ac 1 Ebrill 2011.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth bellach mewn perthynas â thaliadau gohiriedig drwy ddiwygio'r Rheoliadau Rhestrau Lleol a'r Rheoliadau Rhestrau Canolog er mwyn—
rhoi ar gael yr un cyfleuster ar gyfer taliadau gohiriedig mewn cysylltiad â'r flwyddyn ariannol sy'n cychwyn ar 1 Ebrill 2012; a
gwneud y darpariaethau ar gyfer taliadau gohiriedig yn fwy cyffredinol fel bod modd, os yw'r cyfleuster taliadau gohiriedig i'w roi ar gael ym mlynyddoedd ariannol y dyfodol, i hynny gael ei wneud heb yr angen i ddiwygio'r Rheoliadau Rhestrau Lleol a'r Rheoliadau Rhestrau Canolog yn gyfan gwbl.
Mae rheoliad 8 yn addasu rheoliad 6 o Reoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992 O.S.1992/3238), gan alluogi awdurdodau bilio i ailgyfrifo eu cyfraniadau ardrethu annomestig oherwydd bod trethdalwyr yn gohirio talu ardrethi o dan y Rheoliadau hyn.
Mae rheoliad 9 o'r Rheoliadau hyn yn addasu'r diffiniad o “relevant year” yn rheoliad 2 o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993 (O.S.1993/252).
Cywirwyd rhai mân wallau teipograffyddol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd hi'n angenrheidiol gwneud asesiad effaith rheoleiddiol o ran costau a manteision tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys