- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan Fesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010.
Mae rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiad i gywiro gwall golygu yn Rheoliadau Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2011 (“Rheoliadau 2011”).
Mae Rheoliadau 2011 yn gymwys i fyrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol ac yn rhannol i Ymddiriedolaeth GIG Felindre ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Cyfeirir at y rhain fel “awdurdodau dynodedig”. Mae Rheoliadau 2011 yn ei gwneud yn ofynnol i bob bwrdd iechyd lleol yng Nghymru a'r awdurdodau lleol sy'n dod o fewn eu hardaloedd i weithio gyda'i gilydd i lunio a chyhoeddi strategaeth sy'n nodi sut y byddant yn gweithio gyda'i gilydd i helpu a chynnwys gofalwyr yn y trefniadau sy'n cael eu gwneud ar gyfer y rhai y maent yn gofalu amdanynt.
Roedd rheoliad 9(7) o Rheoliadau 2011 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau dynodedig i gyhoeddi'u strategaethau yn y Gymraeg a'r Saesneg oni bai nad yw'n rhesymol ymarferol i wneud hynny.
Mae rheoliad 3 o'r Rheoliadau hyn yn dirymu rheoliad 9(7) o Reoliadau 2011 er mwyn osgoi unrhyw oblygiad posibl bod y fersiynau Cymraeg a Saesneg o'r strategaethau yn cael eu trin yn wahanol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. Gan mai gwneud mân newidiadau i'r Rheoliadau presennol yn unig y maent, ni thybiwyd bod angen cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o gostau a manteision tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys