Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 4) 2012

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 191 (Cy.30) (C.5)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 4) 2012

Gwnaed

26 Ionawr 2012

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 74(2) a 75(3) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 4) 2012.

(2Yn y Gorchymyn hwn —

ystyr “ardal awdurdod lleol” (“local authority area”) yw ardal ddaearyddol o Gymru y mae awdurdod lleol yn gyfrifol amdani;

ystyr “Mesur 2010” (“the 2010 Measure”) yw Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.

Cychwyn ar y diwrnod ar ôl i'r Gorchymyn hwn gael ei wneud

2.—(1Mae'r erthygl hon yn gymwys o ran Cymru.

(2Mae'r darpariaethau hynny o Fesur 2010 a nodir yn Atodlen 1, i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, yn dod i rym ar y diwrnod ar ôl i'r Gorchymyn hwn gael ei wneud.

Cychwyn mewn ardaloedd penodedig ar 28 Chwefror 2012

3.—(1Mae paragraff (2) o'r erthygl hon yn gymwys mewn perthynas â'r ardaloedd awdurdod lleol canlynol—

(a)Caerdydd; a

(b)Bro Morgannwg.

(2Daw'r darpariaethau hynny o Fesur 2010 a nodir yn Atodlen 2 i rym ar 28 Chwefror 2012.

Cychwyn mewn ardaloedd penodedig ar 31 Mawrth 2012

4.—(1Mae paragraff (2) o'r erthygl hon yn gymwys mewn perthynas â'r ardaloedd awdurdod lleol canlynol—

(a)Sir Gaerfyrddin;

(b)Ceredigion;

(c)Sir Benfro; ac

(ch)Powys.

(2Daw'r darpariaethau hynny o Fesur 2010 a nodir yn Atodlen 2 i rym ar 31 Mawrth 2012.

Cychwyn ar 31 Ionawr 2012

5.—(1Mae'r erthygl hon yn gymwys o ran Cymru.

(2Daw adran 12 o Fesur 2010 i rym ar 31 Ionawr 2012.

Gwenda Thomas

Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

26 Ionawr 2012

Erthygl 2(2)

ATODLEN 1

1.  Adran 58(2) (swyddogaethau cymorth i deuluoedd);

2.  Adran 60(1) (personau rhagnodedig);

3.  Adran 62(2) (swyddogaethau byrddau integredig cymorth i deuluoedd);

4.  Adran 63 (rheoliadau ynghylch timau a byrddau integredig cymorth i deuluoedd).

Erthyglau 3(2) a 4(2)

ATODLEN 2

Yr holl ddarpariaethau yn Rhan 3 o Fesur 2010 sydd ar ôl, i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, ac eithrio paragraffau (b), (c) a (d) o adran 58(6).

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi effaith i Ran 3 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (“Mesur 2010”) mewn perthynas â dwy set bellach o ardaloedd awdurdod lleol (ac eithrio rhan o adran 58(6)).

Mae hefyd yn cychwyn rhai pwerau i wneud rheoliadau mewn perthynas â phob rhan o Gymru lle nad ydynt eisoes wedi cychwyn. Mae Rhan 3 (ac eithrio adran 58(6)) eisoes wedi cael ei dwyn i rym gan Orchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn) 2010, ond dim ond mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig, sef Merthyr Tudful, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf a Wrecsam.

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn cychwyn y darpariaethau yn Atodlen 1. Mae'r darpariaethau'n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau penodol i roi effaith i Ran 3 o'r Mesur ac mae'n cael eu dwyn i rym ar y diwrnod ar ôl i'r Gorchymyn hwn gael ei wneud. Effaith erthygl 2 yw dwyn y pwerau hyn i rym mewn perthynas ag ardaloedd lle nad yw'r pwerau hynny eisoes wedi cychwyn.

Mae erthygl 3 a 4 yn cychwyn y darpariaethau a restrir yn Atodlen 2. Mae'r darpariaethau yn cael eu dwyn i rym mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol Caerdydd a Bro Morgannwg ar 28 Chwefror 2012 ac mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys ar 31 Mawrth 2012. Mae'r darpariaethau yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i sefydlu un neu ragor o dimau integredig cymorth i deuluoedd yn eu hardal. Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol y mae ei ardal yn cyfateb i ardal awdurdod lleol gymryd rhan wrth sefydlu'r tîm. Mae adran 58 yn nodi'r mathau o achosion a allai gael eu hatgyfeirio at dîm integredig cymorth i deuluoedd (“ICiD”) ac mae adran 58(6) yn nodi'r categorïau o oedolion a all fod yn destun atgyfeiriad teulu. Dim ond paragraff (a) o adran 58(6) sydd wedi ei gychwyn, felly dim ond atgyfeiriadau mewn perthynas â theuluoedd lle y mae rhiant yn ddibynnol ar alcohol neu gyffuriau sy'n gallu cael eu derbyn gan dîm ICiD. Mae adrannau 61 a 62 yn darparu ar gyfer sefydlu byrddau ICiD i arolygu timau ICiD.

Mae erthygl 5 yn cychwyn adran 12 o Fesur 2010 ar 31 Ionawr 2012. Mae adran 12 yn ymwneud â phlant yn cymryd rhan ym mhenderfyniadau awdurdod lleol.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae darpariaethau canlynol Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 wedi cael eu dwyn i rym gan Orchmynion Cychwyn sydd wedi eu gwneud cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

Y ddarpariaethY Dyddiad CychwynO.S. Rhif
Adran 571 Medi 2010 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig)O.S. 2010/1699 (Cy.160) (C.87)
Adrannau 58 (1)-(5), (6)(a), (7)-(14)1 Medi 2010 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig)O.S. 2010/1699 (Cy.160) (C.87)
Adrannau 59-651 Medi 2010 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig)O.S. 2010/1699 (Cy.160) (C.87)
Adrannau 19-561 Ebrill 2011O.S. 2010/2582 (Cy.216) (C.123)
Adran 72 ac Atodlen 1 paragraffau 1-18, paragraffau 21-281 Ebrill 2011O.S. 2010/2582 (Cy.216) (C.123)
Adran 73 ac Atodlen 2 (i'r graddau y maent yn ymwneud â Deddf Plant 1989, Deddf Addysg 2002 a Deddf Gofal Plant 2006)1 Ebrill 2011O.S. 2010/2582 (Cy.216) (C.123)
Adran 2 (i'r graddau y mae'n gymwys i awdurdodau Cymreig)10 Ionawr 2011O.S 2010/2994 (Cy.248) (C.134)
Adrannau 4, 5, 6, 17, 1810 Ionawr 2011O.S 2010/2994 (Cy.248) (C.134)

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill