- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
CREDYDAU TRETH, CYMRU
Gwnaed
28 Mawrth 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
30 Mawrth 2011
Yn dod i rym
1 Ebrill 2011
Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod cenedlaethol priodol o dan adran 12(6) o Ddeddf Credydau Treth 2002(1), yn gwneud y diwygiadau a ganlyn i'r Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) 2007(2) drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 12(5), (7) ac (8) a 65(3) a (9) o'r Ddeddf honno.
1.—(1) Enw'r Cynllun hwn yw Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) (Diwygio) 2011 a daw i rym ar 1 Ebrill 2011.
(2) Mae'r Cynllun hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Cynllun hwn ystyr “y prif Gynllun” (“the principal Scheme”) yw Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) 2007.
2. Yn erthygl 2 o'r prif Gynllun (diffiniadau), yn y diffiniad o “corff cymeradwyo” (“approval body”), yn lle “yw'r corff y cyfeirir ato yn erthygl 3” rhodder “yw Gweinidogion Cymru”.
3. Mae erthygl 3 o'r prif Gynllun (corff penodedig) wedi ei dirymu.
4. Yn lle paragraff (1) o erthygl 6 o'r prif Gynllun (person a gymeradwywyd) rhodder y canlynol—
“(1) Rhoddir cymeradwyaeth i berson fel darparydd gofal plant o dan y Cynllun hwn os yw'r corff cymeradwyo wedi'i fodloni bod y meini prawf cymeradwyo wedi'u bodloni mewn perthynas â'r person hwnnw.”.
5. Ym mharagraff (b) o erthygl 7 o'r prif Gynllun (meini prawf cymeradwyo) yn lle “Gynulliad Cenedlaethol Cymru” rhodder “Weinidogion Cymru”.
6. Yn erthyglau 8 (system gymeradwyo), 9 (yr wybodaeth sydd i'w darparu gan y corff cymeradwyo) a 10 (y cyfnod cymeradwyo) o'r prif Gynllun, yn lle “rhaid i” rhodder “bydd” ym mhob man lle y mae'n ymddangos.
7. Yn erthygl 12 o'r prif Gynllun (ffioedd) hepgorer “, a hynny'n ddarostyngedig i gymeradwyaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru,”.
8. Mae erthygl 13 o'r prif Gynllun (darpariaethau trosiannol) wedi ei dirymu.
9. Mae'r erthyglau a ganlyn wedi eu mewnosod yn y prif Gynllun—
14.—(1) Er gwaethaf dwyn y Cynllun hwn i rym, mae unrhyw gymeradwyaeth a roddir i ddarparydd gofal plant gan y cyn gorff cymeradwyo yn ddilys yn union cyn 1 Ebrill 2011 yn parhau i fod yn effeithiol mewn perthynas â'r darparydd hwnnw hyd nes y cynharaf o'r tri dyddiad isod, sef —
(a)y dyddiad pryd y tynnir y gymeradwyaeth honno yn ôl yn unol ag erthygl 6;
(b)y dyddiad pryd y daw'r gymeradwyaeth i ben am fod amser wedi mynd heibio; neu
(c)y dyddiad pryd y rhoddir cymeradwyaeth i'r darparydd gofal plant dan sylw gan y corff cymeradwyo yn unol ag erthygl 6.
(2) Yn yr erthygl hon ac yn erthygl 15, ystyr “cyn gorff cymeradwyo” (“former approval body”) yw Nestor Primecare Services Limited, sy'n masnachu fel Nestor Criminal Records Agency(3).
15. Pan fo cais am gymeradwyaeth fel darparydd gofal plant wedi cael ei gyflwyno i'r cyn gorff cymeradwyo ond nid yw wedi ei roi na'i wrthod eto gan y cyn gorff cymeradwyo cyn 1 Ebrill 2011, bydd y cais hwnnw am gymeradwyaeth yn cael ei benderfynu gan y corff cymeradwyo.”.
Huw Lewis
Y Dirprwy Weinidog dros Blant, o dan awdurdod y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
28 Mawrth 2011
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Cynllun)
Mae'r Cynllun hwn yn diwygio Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) 2007 (“Cynllun 2007”).
Mae Cynllun 2007 yn darparu ar gyfer cymeradwyo darparwyr gofal plant at ddibenion adran 12(5) o Ddeddf Credydau Treth 2002 (“y Ddeddf”). Gofal plant cymwys (fel y'i diffinnir yn erthygl 5 o Gynllun 2007) a ddarperir gan berson a gymeradwyir yn unol â Chynllun 2007 yw gofal a ddarperir gan berson o ddisgrifiad rhagnodedig at ddibenion adran 12(4) o'r Ddeddf. Mae Rheoliadau Credyd Treth Gwaith (Yr Hawl i'w Gael a'r Gyfradd Uchaf) 2002 (O.S. 2002/2005), a wnaed o dan adran 12(1) o'r Ddeddf, yn rhagnodi o dan ba amgylchiadau y gall hawl i gael credyd treth gwaith ar gyfer gofal a ddarperir gan berson a gymeradwyir yn unol â Chynllun 2007 godi.
Mae'r Cynllun hwn yn diwygio Cynllun 2007 i ddarparu, pan ddaw'r Cynllun hwn i rym, mai Gweinidogion Cymru fydd y corff cymeradwyo (drwy Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru) (erthygl 2).
Mae diwygiadau canlyniadol wedi eu gwneud i Gynllun 2007 gan erthyglau 3 i 8.
Mae erthygl 9 yn mewnosod darpariaeth arbed a darpariaeth drosiannol yng Nghynllun 2007 fel bod cymeradwyaethau sy'n ddilys yn union cyn i'r Cynllun hwn ddod i rym yn parhau i fod yn effeithiol o dan amgylchiadau rhagnodedig. Mae darpariaeth hefyd wedi ei gwneud i ymdrin â cheisiadau am gymeradwyaeth nad ydynt wedi eu cwblhau cyn 1 Ebrill 2011.
2002 p.21. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adrannau 12(5), (7) ac (8) a 65(3) a (9) o Ddeddf Credydau Treth 2002 (“y Ddeddf”) i Weinidogion Cymru drwy weithrediad paragraff 30 o Atodlen 11 i Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Gweler adran 67 o'r Ddeddf am y diffiniad o “prescribed” ac adran 65(3) am y diffiniad o “schemes”.
O.S. 2007/226 (Cy.20), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2008/2687 (Cy. 237).
A gofrestrwyd yn Lloegr a Chymru Rhif 1963820.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys