Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2011

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Y Gorchymyn hwn yw'r chweched Gorchymyn Cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (p.23) (“Deddf 2008”) sy'n dod â darpariaethau penodedig yn Neddf 2008 i rym o ran Cymru.

Mae erthygl 2(1) o'r Gorchymyn hwn yn darparu mai 28 Mawrth 2011 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau yn y Ddeddf a restrir isod ddod i rym o ran Cymru—

  • mae erthygl 2(1)(a) yn cychwyn adran 15 o'r Ddeddf (dyletswydd awdurdod lleol i sicrhau ymweliadau â phlant sy'n derbyn gofal ac eraill), i'r graddau nad yw eisoes mewn grym; yna caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol yng Nghymru sicrhau bod cynrychiolydd o'r awdurdod yn ymweld â phlant sy'n derbyn gofal, a phlant eraill a all fod wedi derbyn gofal yn y gorffennol, mewn amgylchiadau rhagnodedig;

  • mae erthygl 2(1)(b) yn cychwyn adran 19 o'r Ddeddf (cymorth i blant sy'n cael eu lletya), a fydd yn estyn rhwymedigaethau awdurdodau lleol yng Nghymru i ddarparu cymorth i blant sy'n cael eu lletya (sy'n cael eu diffinio drwy gyfeirio at adrannau 85 ac 86 o Ddeddf Plant 1989);

  • mae erthygl 2(1)(c) yn cychwyn adran 29 o'r Ddeddf (hysbysu am faterion sy'n ymwneud â phersonau sy'n rhedeg neu'n rheoli cartrefi plant etc), i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, er mwyn mewnosod adran 30A newydd yn Neddf Safonau Gofal 2000. Mae'r adran hon yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i hysbysu pob awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr pan fo camau gorfodi penodol yn cael eu cymryd o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000;

  • mae erthygl 2(1)(ch) yn cychwyn adran 42 o'r Ddeddf ac Atodlen 4 iddi (diddymiadau) i'r graddau y maent yn ymwneud â'r canlynol—

    (i)

    y diddymiadau yn adran 104 o Ddeddf Plant 1989, a

    (ii)

    y diddymiadau yn adran 21 o Ddeddf Safonau Gofal 2000.

Mae erthygl 2(2) o'r Gorchymyn hwn yn darparu mai 1 Medi 2011 yw'r diwrnod penodedig i adran 20 o'r Ddeddf ddod i rym o ran Cymru (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym). Bydd yn ofynnol i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir yng Nghymru ddynodi aelod o'r staff i fod yn un sy'n gyfrifol dros hybu cyrhaeddiad addysgol plant sy'n derbyn gofal ac sy'n ddisgyblion cofrestredig yn yr ysgol (diffinnir ysgol a gynhelir (“maintained school”) a disgybl cofrestredig (“registered pupil”) yn eu tro yn Neddfau Addysg 2002 a 1996).

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill