- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Offerynnau Statudol Cymru
BWYD, CYMRU
Wedi'u gwneud
23 Ionawr 2007
Yn dod i rym
25 Ionawr 2007
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(f), 17(1), 26(3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo ef(2).
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ystyried cyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd fel sy'n ofynnol gan adran 48(4A) o'r Ddeddf honno.
Cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi'r Rheoliadau fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3).
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) (Diwygio) 2007.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 25 Ionawr 2007.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(4) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y prif Reoliadau” yw Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2002(4).
2. Diwygir y prif Reoliadau yn unol â rheoliadau 3 i 5.
3. Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y diffiniad o “Cyfarwyddeb 2001/15”, ar ôl “Cyfarwyddeb 2004/5/EC” mewnosoder “a Chyfarwyddeb y Comisiwn 2006/34/EC(5)”.
4. Yn Atodlen 1 (sylweddau y ceir eu hychwanegu at ddibenion maethol penodol at fwyd DMN dynodedig)—
(a)yn yr Adran sy'n ymwneud â Chategori 1 (fitaminau), yn lle'r pennawd “FOLIC ACID” rhodder “FOLATE”, ac o dan y pennawd (diwygiedig) hwnnw mewnosoder ar y diwedd “— calcium-L-methylfolate”;
(b)yn yr Adran sy'n ymwneud â Chategori 2 (mwynau), o dan y pennawd “IRON” mewnosoder ar y diwedd “— ferrous bisglycinate”.
5. Yn Atodlen 2 (sylweddau ychwanegol y ceir eu hychwanegu at ddibenion maethol penodol at fwydydd at ddibenion meddygol arbennig) mewnosoder ar y dechrau—
magnesium L-aspartate”.
6.—(1) I'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru, diwygir Rheoliadau Hysbysiadau o Farchnata Bwyd at Ddibenion Maethol Penodol (Cymru a Lloegr) 2002(6) yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn rheoliad 6 (cymhwyso amrywiol ddarpariaethau o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990) hepgorer y geiriau “, unless the context otherwise requires,”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
23 Ionawr 2007
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2002 fel y'i diwygiwyd (“y prif Reoliadau”).
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/34/EC (OJ Rhif L83, 22.3.2006, t.14) sy'n diwygio'r Atodiad i Gyfarwyddeb 2001/15/EC o ran cynnwys sylweddau penodol.
3. Mae'r prif Reoliadau yn gymwys i fwyd ar gyfer y rhan fwyaf o ffyrdd penodol o'i ddefnyddio'n faethol (ceir diffiniad o “bwyd DMN dynodedig” yn rheoliad 2(1) o'r Rheoliadau hynny). Mae'r Rheoliadau hynny yn cyfyngu ar werthu bwydydd o'r fath pan fo sylwedd sy'n cwympo o fewn un o'r chwe categori canlynol wedi cael ei ychwanegu ato at ddiben maethol penodol: fitaminau; mwynau; asidau amino; carnitin a thawrin; niwcelotidau; colin ac inositol. Mewn achos o'r fath rhaid i'r sylwedd fod wedi'i restru o dan y categori perthnasol yn Atodlen 1 neu, yn achos bwydydd at ddibenion meddygol arbennig, yn Atodlen 1 neu 2. Mae yna randdirymiad ag iddo derfyn amser yn achos sylweddau a restrir yn Atodlen 3 (rheoliad 3(5) o'r Rheoliadau hynny).
4. Mae'r Rheoliadau hyn—
(a)yn ychwanegu sylweddau penodol at y rhestr yn y categorïau fitaminau a mwynau y ceir eu hychwanegu at ddibenion maethol penodol at fwydydd DMN dynodedig (heb unrhyw derfyn amser) (rheoliad 4);
(b)yn ychwanegu sylwedd yn y categori mwynau at y rhestr o sylweddau y ceir eu hychwanegu at ddibenion maethol penodol at fwydydd at ddibenion meddygol arbennig (heb unrhyw derfyn amser) (rheoliad 5);
(c)yn diweddaru'r diffiniad o “Cyfarwyddeb 2001/15” (rheoliad 3).
5. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd diwygio Rheoliadau Hysbysiadau o Farchnata Bwyd at Ddibenion Maethol Penodol (Cymru a Lloegr) 2002 i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru er mwyn dileu geiriau dianghenraid o reoliad 6 o'r Rheoliadau hynny (rheoliad 6).
6. Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn ac wedi'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghyd â chopi o'r nodyn trosi sy'n ymwneud â'r Rheoliadau hyn. Gellir hefyd gael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House Caerdydd CF10 1EW.
1990 c. 16; amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (y diffiniad o “food”) gan O.S. 2004/2990; diwygiwyd adran 53(2) gan Atodlen 6 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28) ac O.S. 2004/2990.
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 672).
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t. 1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4).
O.S. 2002/2939 (Cy.280), a ddiwygiwyd gan O.S. 2004/1012 (Cy.109); y mae offerynnau diwygio eraill i'w cael, ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol.
OJ Rhif L83, 22.3.2006, t.14.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys