- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 2004, yn diwygio Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) 2002 (O.S. 2002/897 (Cy.103)). Maent yn gymwys o ran cynhyrchwyr, prynwyr a phersonau perthnasol eraill y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn awdurdod cymwys perthnasol mewn perthynas â hwy sef fel y diffinnir “the relevant competent authority” gan Reoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Darpariaethau Cyffredinol) 2002 (O.S. 2002/458). Gall y daliadau y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt gynnwys tir mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig y tu allan i Gymru.
Mae'r Rheoliadau'n gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1788/2003 sy'n sefydlu ardoll yn y sector llaeth a chynhyrchion llaeth (OJ Rhif L270, 21.10.2003, t.123) a hefyd ddyfarniad Llys Cyfiawnder Ewrop yn achos C-401/99 Peter Heinrich Thomsen v Amt für ländliche Räume Husum [2002] ECR I-5775. Cadarnhaodd dyfarniad Thomsen, mewn perthynas â lesydd pan ddaw les i ben, yn gyffredinol dim ond “cynhyrchydd” a gaiff ddal y cwota llaeth hwnnw sef “producer” o fewn ystyr yr hyn sydd bellach yn Erthygl 5(c) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1788/2003.
Mae'r Rheoliadau —
(a)yn disodli'r diffiniadau o “Council Regulation” a “Scottish Islands area” (rheoliad 5);
(b)yn parhau i gyfyngu ar y cwota sy'n cael ei ddal yn ardaloedd Ynysoedd yr Alban i'w ddefnyddio yn yr ardaloedd hynny (rheoliad 6);
(c)yn gwneud darpariaeth gyffredinol ar gyfer trosglwyddo cwota, o fewn pob ardal gwota yn y Deyrnas Unedig, heb drosglwyddo tir (rheoliad 7);
(ch)yn cynnal rhwymedigaethau cofrestru ar gyfer y rhai nad ydynt yn cynhyrchu a marchnata llaeth nes bod eu cwota wedi cael ei drosglwyddo neu ei dynnu'n ôl (rheoliadau 8 a 9);
(d)yn estyn i danddywediadau, y cosbau gweinyddol am grynodebau anghywir oddi wrth brynwyr a datganiadau anghywir gan werthwyr uniongyrchol sydd ar hyn o bryd yn gymwys i orddywediadau yn unig (rheoliadau 10 a 11);
(dd)yn adolygu'r darpariaethau ar atafaelu ac adfer cwota drwy gymhwyso'r terfyn amser a ragnodwyd ar gyfer adfer gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1788/2003, drwy gyfyngu ar ddal cwota i gynhyrchwyr, drwy ddiweddaru'r cyfeiriadau at Reoliad y Cyngor, a thrwy wneud newidiadau gweinyddol (rheoliadau 12 a 13);
(e)yn diweddaru gweddill y cyfeiriadau at Reoliad y Cyngor (rheoliad 14 ac Atodlen 1);
(f)yn gwneud mân ddiwygiadau pellach (rheoliad 15 ac Atodlen 2).
Mae copi o'r map y cyfeirir ato yn y diffiniad o “Scottish Islands area” ar gael i'w archwilio yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Adran yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd ac yn swyddfeydd Adran Materion Amgylcheddol a Gwledig Gweithrediaeth yr Alban, Pentland House, 47 Robb’s Loan, Caeredin, EH4 1TY.
Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ac mae ar gael i'w archwilio yn swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol yn y cyfeiriad a nodir uchod.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys