- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Wedi'u gwneud
18 Mawrth 2003
Yn dod i rym
1 Ebrill 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 35(1), 36(1) a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(1) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1.—(1) Enw'r rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gynwys i Gymru yn unig.
(3) Diwygir yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) 1992(2) yn unol â darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn.
2. Diwygir paragraff 31A o Atodlen 1 (Cwynion) yn unol â'r paragraffau canlynol —
(a)ym mharagraff 6(b)(ii) yn lle'r gair “three”, rhodder y gair “two”; a
(b)ym mharagraph (6)(c) yn lle'r ffigur “10”, rhodder y ffigur “20”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).
D.Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
18 Mawrth 2003
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) 1992 sy'n rheoleiddio'r telerau ynghylch darparu gwasanaethau deintyddol cyffredinol o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977.
Mae Rheoliad 2 yn cynnwys darpariaethau sy'n diwygio'r cyfnod o amser sydd gan ddeintyddion i ymateb i gwynion a wneir gan neu ar ran cleifion neu gleifion blaenorol o dan drefn gwyno'r practis. Caiff yr amser a ganiateir i ddeintyddion gydnabod cwynion yn ffurfiol ei leihau o dri diwrnod i ddau ddiwrnod (ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith a gwyliau banc), tra caiff yr amser a ganiateir i roi i achwynydd grynodeb ysgrifenedig o ymchwiliadau a chasgliadau ei gynyddu o 10 i 20 diwrnod gwaith (ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith a gwyliau banc).
1977 p.49; gweler adran 128(1), fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) (“Deddf 1990”), adran 26(2)(g) ac (i) i gael y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”.
Diwygiwyd adran 35(1) gan O.S. 1985/39, erthygl 7; gan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17), adran 2(1), Atodlen 1, paragraff 24 a chan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p.15) (“Deddf 2001”), adran 22(1), (2)(a)(i) a (ii).
Diwygiwyd adran 36(1) gan Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1984 (p.48), adran 5(4), Atodlen 3, paragraff 5; gan Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17 ) (“Deddf 2002”), adran 2(5), Atodlen 2, Rhan 1, paragraffau 1, 10(1) a (2); gan O.S.1981/432, erthygl 3(3)(a); gan Ddeddf 1990, adran 24(2); gan Ddeddf 2001, adran 20(1), (4)(a) ac adran 22(1), (3)(b)(c); gan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) (“Deddf 1999”), adran 9(3); gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), adran 25, Atodlen 2, paragaff 4; gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p. 46), adran 41(10), (12), Atodlen 2, paragraff 12, Atodlen 3, Rhan 1.
Diwygiwyd Adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2); gan Ddeddf 1999, adran 65(1), Atodlen 4, paragraffau 4, 37(1) a 6; gan Ddeddf 2001, adran 67(1), Atodlen 5, Rhan 1, paragraffau 5(1) a 13(b) a chan Ddeddf 2002, adran 6(3)(c).
O ran Cymru, trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 35(1), 36(1) a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo, O.S. 1999/672.
O.S. 1992/661, yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S.1996/704 sy'n mewnosod paragraffau 31A, B ac C yn Atodlen 1.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys