- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud addasiadau i Ddeddf Addysg 2002 ac yn gwneud darpariaethau trosiannol mewn cysylltiad â'r ffaith bod darpariaethau'r Ddeddf yn cael eu dwyn i rym gan Orchymyn Ddeddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2003. Maent yn gwneud diwygiadau canlyniadol hefyd.
Mae'r cyfeiriadau isod at adrannau ac Atodlenni (heb fanylion pellach) yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg 2002 a'r Atodlenni iddi.
Mae rheoliadau 3 i 5 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â dwyn i rym adran 41 sy'n gwneud darpariaeth newydd mewn perthynas â chyllido ysgolion a gynhelir a phenderfynu cyllidebau. Mae'r darpariaethau newydd i fod yn effeithiol mewn perthynas yn unig â'r flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004.
Mae rheoliadau 6 a 7 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â dwyn i rym adran 52(1) i (6) sy'n ymwneud â gwahardd disgyblion. Hyd nes y daw adran 52(11) i rym (ac effaith yr is-adran fydd cynnwys ysgolion meithrin a gynhelir yn y diffiniad o ysgol a gynhelir), mae cyfeiriadau yn adran 52 at ysgol a gynhelir i fod yn effeithiol fel pe baent yn gyfeiriadau at ysgol a gynhelir fel y'i diffinnir yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (“Deddf 1998”), nad ydyw'n cynnwys ysgol feithrin a gynhelir. Os gwaherddir disgybl cyn 9 Ionawr 2004 mae darpariaethau perthnasol Deddf 1998 a Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Apelau yn erbyn Gwaharddiadau Parhaol) (Cymru) 2003 i barhau i fod yn effeithiol.
Mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â dwyn i rym Ran 10 o Ddeddf Addysg 2002 sy'n gosod system newydd ar gyfer rheoleiddio ysgolion annibynnol. Ni fydd y darpariaethau newydd sy'n ymwneud â chynlluniau gweithredu yn gymwys i ysgolion a gofrestrwyd dros dro o dan Ddeddf Addysg 1996 tan 1 Ionawr 2006. Os dyfarnwyd contract i arolygu ysgol annibynnol a gymeradwywyd o dan adran 347 o Ddeddf Addysg 1996 cyn 1 Ionawr 2004, gwneir darpariaeth sy'n caniatáu i'r arolygiad gael ei gyflawni o dan Ddeddf Arolygiadau Ysgolion 1996 yn hytrach nag o dan y system newydd. Ni fydd y diffiniad newydd o ysgol annibynnol (sy'n cynnwys ysgol ag un neu fwy o ddisgyblion sydd â datganiad o anghenion addysgol arbennig neu sy'n derbyn gofal) yn gymwys tan 1 Medi 2004 i gartref plant y cofrestrwyd person i'w redeg cyn 1 Ionawr 2004.
Mae rheoliad 9 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â dwyn i rym adran 207 sy'n galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud rheoliadau sy'n darparu ar gyfer adennill rhwng awdurdodau addysg lleol. Hyd nes y gwneir rheoliadau newydd o dan adran 207, mae Rheoliadau Addysg (Adennill Rhwng Awdurdodau) 1994 i barhau mewn grym.
Mae rheoliad 10 yn diwygio Rheoliadau Addysg (Maint Dosbarthiadau Babanod) (Cymru) 1998 fel y rhodder y term “school teacher” yn lle'r term “qualified teacher”. Daw hyn yn sgil dwyn i rym ar 19 Rhagfyr 2002 y diwygiadau a wneir gan Atodlen 21 i adrannau 1 a 4 o Ddeddf 1998.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys