Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Premiwm Blynyddol Defaid (Diwygio) (Cymru) 2003

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 151 (Cy.21)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Premiwm Blynyddol Defaid (Diwygio) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

29 Ionawr 2003

Yn dod i rym

3 Chwefror 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo o dan yr adran 2(2) a enwyd, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol :

Teitl a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Premiwm Blynyddol Defaid (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 3 Chwefror 2003.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “cynhyrchydd” yw cynhyrchydd fel y diffinnir “producer” yn Erthygl 3 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 2529/2001 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn cig defaid a chig geifr(3);

  • ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “daliad” (“holding”) yw'r holl unedau cynhyrchu sy'n cael eu rheoli gan gynhyrchydd sydd wedi'i leoli yn y Deyrnas Unedig;

  • ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau Premiwm Blynyddol Defaid (Diwygio) (Cymru) 1992(4); ac

  • ystyr “Rheoliadau IACS” (“the IACS Regulations”) yw Rheoliadau'r System Integredig Rheoli a Gweinyddu 1993(5).

Diwygio'r prif Reoliadau

3.—(1Cyn belled ag y maent yn ymwneud i raddau perthnasol â chynhyrchydd, diwygir y prif Reoliadau yn unol â darpariaethau paragraffau (3) i (5) o'r rheoliad hwn.

(2Ym mharagraff (1) uchod, ystyr “i raddau perthnasol” yw'r graddau y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn awdurdod cymwys perthnasol at ddibenion y Rheoliadau IACS mewn perthynas â daliad y cynhyrchydd o dan sylw.

(3Yn rheoliad 5 (pwerau swyddogion awdurdodedig), rhoddir y paragraff canlynol yn lle'r paragraff (5)(a) presennol—

(a)require any producer or any employee, servant or agent of a producer to produce any record that producer is required to keep pursuant to regulation 8 and to supply such additional information in that person’s possession or under his control relating to an application for premium as the authorised officer may reasonably request;.

(4Ar ôl rheoliad 7, mewnosodir y rheoliad canlynol—

Record keeping

8.(1) Where at any time during a marketing year a producer fails to comply with the record keeping requirements of paragraphs (2) to (4) of this regulation, the National Assembly may withhold or recover on demand the whole or any part of any premium payable or paid to the producer in respect of that marketing year.

(2) On or before 31st January each year, the producer shall record the total number of female sheep on the holding on 1st January of that year which either were over 12 months old or had given birth, and the date the entry was made.

(3) Without prejudice to the requirements of paragraph (2), within 14 days of any of the following events—

(a)the intentional movement on or off the holding of female sheep which either were over 12 months old or had given birth;

(b)a female sheep which has not given birth

reaching the age of 12 months;

(c)a sheep under 12 months old giving birth;

(d)the discovery that a female sheep which either was over 12 months old or had given birth has been lost from the holding, either because it has died or because it is missing from the holding.

the producer shall record the total number of female sheep on the holding which have given birth or are over 12 months old, the date of the entry and the reasons that the total number of such sheep on the holding has changed.

(4) All records under this regulation shall be retained by the producer for a period of four years..

(5Dilëir Rheoliad 8A.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

29 Ionawr 2003

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 3 Chwefror 2003, yn diwygio Rheoliadau Premiwm Blynyddol Defaid 1992 (O.S. 1992/2677, fel y'u diwygiwyd eisoes gan O.S. 1994/2741, 1995/2779, 1996/49, 1997/2500 a 2000/2573) (“y prif Reoliadau”).

Maent yn diwygio'r prif Reoliadau cyn belled ag y mae'r rheiny'n ymwneud “i raddau perthnasol” ag unrhyw gynhyrchydd at ddibenion Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2529/2001 sy'n gosod rheolau cyffredinol ar gyfer rhoi premiwm i gynhyrchwyr cig defaid a chig geifr (OJ Rhif L341, 22.12.2001, t.3). Y “graddau perthnasol” at y diben hwn yw'r graddau y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mewn perthynas â daliad y cynhyrchydd o dan sylw, yn awdurdod cymwys perthnasol at ddibenion Rheoliadau System Integredig Gweinyddu a Rheoli 1993 (O.S. 1993/1317, fel y'u diwygiwyd gan O.S. 1994/1134, 1997/1148, 1999/1820 a 2000/2573).

Mae'r Rheoliadau yn mewnosod yn y prif Reoliadau reoliad 8 newydd sy'n gosod gofynion ar y cynhyrchwyr hynny i gadw cofnodion ynglŷn â digwyddiadau penodedig. Yn ychwanegol, maent yn gwneud diwygiadau canlyniadol i'r prif Reoliadau. Mae'r gofynion hyn ynglŷn â chadw cofnodion yn gweithredu Erthygl 4(1)(b) o Gyfarwyddeb y Cyngor (EC) Rhif 92/102 ar adnabod a chofrestru anifeiliaid (OJ Rhif L355, 5.12.92, t.32) ac maent yn ofynion a gafodd eu pennu o'r blaen yn erthygl 5 o Reoliadau Adnabod Defaid a Geifr (Cymru) 2000 (O.S. 2000/2335 (Cy.152)).

Nid oes Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.

(1)

Yn rhinwedd Gorchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) 1999 (O.S. 1999/2788) (“y Gorchymyn”). Mae pŵer y Cynulliad Cenedlaethol, fel corff sydd wedi'i ddynodi mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, i wneud rheoliadau sy'n gymwys i ddaliadau sy'n cynnwys tir sydd wedi'i leoli o fewn y Deyrnas Unedig ond sydd y tu allan i Gymru wedi'i gadarnhau gan baragraff 2(b) o Atodlen 2 i'r Gorchymyn.

(3)

OJ Rhif L341, 22.12.2001, t.3.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill