Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Cymru) 2002

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rhan II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“y Ddeddf”) yn darparu i'r awdurdodau lleol wneud trefniadau (“trefniadau gweithrediaeth”) ar gyfer creu a gweithredu gweithrediaeth o'r awdurdod, sef trefniadau y mae rhai o swyddogaethau'r awdurdod yn gyfrifoldeb i'r weithrediaeth odanynt.

O dan adrannau 18 a 19 o'r Ddeddf, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru wneud darpariaeth, drwy reoliadau, sy'n galluogi gweithrediaeth awdurdod lleol yng Nghymru, neu bwyllgor neu aelod penodedig o weithrediaeth o'r fath, i wneud trefniadau i unrhyw swyddogaethau sydd, o dan y trefniadau gweithrediaeth yn gyfrifoldeb i'r awdurdod, gael eu cyflawni gan bwyllgor ardal o'r awdurdod neu gan awdurdod lleol arall.

Mae adran 19 o'r Ddeddf hefyd yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth sy'n galluogi awdurdod lleol yng Nghymru i wneud trefniadau i unrhyw un o swyddogaethau'r awdurdod gael ei chyflawni gan weithrediaeth awdurdod lleol arall.

O dan adran 20 o'r Ddeddf, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth sy'n galluogi awdurdod lleol yng Nghymru i wneud trefniadau i unrhyw swyddogaethau sydd, o dan y trefniadau gweithrediaeth, yn gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod gael eu cyflawni gan yr awdurdod hwnnw ac un neu ragor o awdurdodau lleol eraill ar y cyd.

Mae Rheoliadau 3, 4 a 5 yn pennu'r personau sydd â'r pwer i wneud trefniadau o'r fath yn achos gweithrediaeth maer a chabinet, gweithrediaeth arweinydd a chabinet a gweithrediaeth maer a rheolwr cyngor yn y drefn honNo.

Mae Rheoliad 6 yn darparu ar gyfer gwneud trefniadau i swyddogaethau sy'n gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod lleol yng Nghymru gael eu cyflawni gan bwyllgor ardal o'r awdurdod hwnnw.

Mae Rheoliad 7 yn darparu ar gyfer gwneud trefniadau i swyddogaethau sy'n gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod lleol yng Nghymru gael eu cyflawni gan awdurdod lleol arall.

Mae Rheoliad 8 yn darparu ar gyfer gwneud trefniadau, o dan amgylchiadau penodedig, i swyddogaethau nad ydynt yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod lleol yng Nghymru gael eu cyflawni gan weithrediaeth awdurdod lleol arall.

Os oes trefniadau wedi'u gwneud o dan Reoliad 7 neu 8 i swyddogaethau awdurdod lleol yng Nghymru gael eu cyflawni gan weithrediaeth awdurdod lleol arall, mae Rheoliad 9 yn darparu bod y swyddogaethau hynny i gael eu trin fel swyddogaethau sy'n gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod lleol arall hwnnw at ddibenion adrannau 14 i 16 o'r Ddeddf.

Os oes trefniadau wedi'u gwneud o dan Reoliad 7 i swyddogaethau sy'n gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod lleol yng Nghymru gael eu cyflawni gan awdurdod lleol arall, mae Rheoliad 10 yn darparu i'r dasg o arfer y swyddogaethau hynny gael ei dirprwyo i bwyllgor, is-bwyllgor neu swyddog o'r awdurdod lleol arall hwnnw.

Mae Rheoliad 11 yn darparu ar gyfer gwneud trefniadau i swyddogaethau sy'n gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod lleol yng Nghymru gael eu cyflawni gan yr awdurdod hwnnw ac un neu ragor o awdurdodau lleol eraill ar y cyd neu gan gyd-bwyllgor.

Mae Rheoliad 12 yn darparu ar gyfer aelodaeth cyd-bwyllgor a benodir yn unol â threfniadau a wneir o dan Reoliad 11.

Mae Rheoliad 13 yn diddymu Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Cymru) 2001.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill