Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi'i Ffermio a Chig Cwningod (Hylendid ac Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2002

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi'i Ffermio a Chig Cwningod (Hylendid ac Archwilio) 1995 (“Rheoliadau 1995”) i'r graddau y mae'r Rheoliadau hynny'n gymwys i Gymru. Mae'r Rheoliadau yn gymwys i Brydain Fawr gyfan. Mae Rheoliadau diwygio tebyg yn cael eu gwneud ar gyfer Lloegr a'r Alban. Effaith y diwygiadau yw—

(a)datgymhwyso Rheoliadau 1995 i'r graddau y mae ffermwyr sy'n cynhyrchu nifer cynfyngedig o adar neu gwningod bob blwyddyn yn cyflawni gwerthiannau penodol, sef drwy adwerthu yn bennaf (rheoliad 2(2) i (5));

(b)gwahardd person rhag gweithredu lladd-dy sydd â thrwybwn isel oni bai ei fod wedi hysbysu'r Asiantaeth Safonau Bwyd am nifer a tharddiad yr adar a'r cwningod sydd i'w cigydda yno (rheoliad 2(6));

(c)diddymu rheoliad 15(3) (esemptio rhag y gofyniad i anfon dogfennau cludiant gyda chig ffres) a gwneud diwygiadau canlyniadol i reoliad 15(1) a (2) (rheoliad 2(7) ac (8));

(ch)diwygio rheoliad 18(1)(a) (dyletswydd meddiannydd i gadw cofnodion) i'w gwneud yn ofynnol i feddiannydd safle trwyddedig gofnodi tarddiad cig sy'n dod i'r safle (rheoliad 2(9));

(d)diwygio gofynion paragraff 5 o Ran I o Atodlen 5 mewn perthynas ag offer oeri mewn lladd-dai trwybwn isel a safleoedd torri trwybwn isel (rheoliad 2(10));

(dd)cywiro gwall ym mharagraff 11 o Atodlen 8 (rheoliad 2(11));

(e)diwygio gofynion paragraff 1(a) o Atodlen 14 i Reoliadau 1995 mewn perthynas â chludo cig ffres adar o ladd-dai trwybwn isel a safleoedd torri trwybwn isel (rheoliad 2(12)).

2.  Daw'r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn i rym ar 1 Chwefror 2002 ac eithrio'r rhai ym mharagraffau (2), (3), (4) a (5) o reoliad 2 sy'n dod i rym ar 1 Rhagfyr 2002.

3.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu, yn rhannol, ddarpariaethau—

(a)Cyfarwyddeb y Cyngor 91/495/EEC ynghylch iechyd y cyhoedd a phroblemau iechyd anifeiliaid sy'n effeithio ar osod cig cwningod a chig adar hela wedi'i ffermio ar y farchnad (OJ Rhif L268, 24.9.91, t.41); a

(b)Cyfarwyddeb y Cyngor 71/118/EEC ynghylch problemau iechyd sy'n effeithio ar gynhyrchu cig dofednod ffres a'i osod ar y farchnad, y ceir ei destun wedi'i gydgrynhoi yn atodiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/116/EEC (OJ Rhif L62, 15.3.93, t.1).

4.  Mae Rheoliad 3 (a wneir o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972) yn gwneud diwygiad canlyniadol i Reoliadau Cynhyrchion sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996 i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.

5.  Mae arfarniad rheoliadol yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 wedi'i baratoi mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn ac wedi'i osod yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill