Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi Gwledig) (Cymru) 2002

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 331 (Cy.44)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi Gwledig) (Cymru) 2002

Wedi'i wneud

13 Chwefror 2002

Yn dod i rym

1 Ebrill 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 43(6B)(b) a (c)(ii) a 47(3A)(b) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1) sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru (2).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi Gwledig) (Cymru) 2002 a daw i rym ar 1 Ebrill 2002.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “Deddf 1949” (“1949 Act”) yw Deddf Telegraffiaeth Ddiwifr 1949(3);

  • ystyr “Deddf 1984” (“1984 Act”) yw Deddf Telathrebu 1984(4));

  • ystyr “Deddf 1988” (“1988 Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988;

  • ystyr “gorsaf betrol” (“petrol filling station”) yw safle lle mae petrol neu danwyddau eraill ar gyfer moduron yn cael eu hadwerthu i'r cyhoedd yn gyffredinol, yn danwydd ar gyfer cerbydau modur sydd wedi'u bwriadu neu wedi'u haddasu i'w defnyddio ar ffyrdd;

  • mae “offer telathrebu” (“telecommunications apparatus”) yn cynnwys—

    (a)

    offer telathrebu o fewn yr ystyr a roddir i “telecommunications apparatus” gan Atodlen 2 i Ddeddf 1984 sy'n cael ei ddefnyddio, neu sydd wedi'i ddylunio i gael ei ddefnyddio, ar gyfer

    (i)

    telegraffiaeth ddiwifr o fewn yr ystyr a roddir i “wireless telegraphy” gan adran 19 o Ddeddf 1949, neu

    (ii)

    darlledu; a

    (b)

    strwythurau ar lun cytiau neu adeiladau eraill (gan gynnwys strwythurau sy'n ffurfio rhan yn unig o adeilad) sy'n cael eu defnyddio, neu sydd wedi'u dylunio i gael eu defnyddio dim ond i gynnwys offer sy'n dod o fewn y disgrifiad ym mharagraff (a);

    ynghyd ag unrhyw offer atodol a feddiennir dim ond at ddibenion person sydd wedi'i drwyddedu i redeg system delathrebu o dan adran 1 o Ddeddf 1949 neu adran 7 o Ddeddf 1984;

  • ystyr “peiriant arian awtomatig” (“automatic teller machine”) yw cyfleuster awtomataidd sy'n cynnig cyswllt hunan-wasanaeth ag amrediad o wasanaethau banc;

  • ystyr “siop gyffredinol” (“general store”) yw safle lle rhedir masnach neu fusnes sy'n cynnwys yn bennaf adwerthu bwyd i bobl ei fwyta (heblaw melysion) a nwyddau ty cyffredinol;

  • ystyr “swyddfa bost” (“post office”) yw safle a ddefnyddir at ddibenion darparydd gwasanaethau cyffredinol o fewn yr ystyr a roddir i “universal service provider” gan Ddeddf Gwasanaethau Post 2000(5) ac mewn cysylltiad â darparu gwasanaeth post cyffredinol o fewn yr ystyr a roddir i “universal postal service” gan y Ddeddf honno; ac

  • ystyr “tafarn” (“public house”) yw safle y mae angen mewndrwydded ynadon ar ei gyfer o fewn yr ystyr a roddir i “justices' on-licence” gan Ddeddf Trwyddedu 1964(6) (heblaw trwydded Rhan IV o fewn yr ystyr a roddir i “Part IV licence” gan y Ddeddf honno).

Terfyn gwerth trethiannol

3.  Mewn perthynas â hereditament a ddangosir yn rhestr ardrethu annomestig awdurdod bilio yng Nghymru—

(a)y swm a ragnodir at ddibenion adran 43(6B)(b) o Ddeddf 1988 yw—

(i)yn achos tafarn neu orsaf betrol, £9,000; a

(ii)mewn unrhyw achos arall, £6,000; a

(b)y swm a ragnodir at ddibenion adran 47(3A)(b) o Ddeddf 1988 yw £12,000.

Amodau ar gyfer rhyddhad

4.  Yr amodau a ragnodir at ddibenion adran 43(6B)(c)(ii) o Ddeddf 1988 yw nad yw'r hereditament—

(a)yn cael ei ddefnyddio at y canlynol yn unig—

(i)arddangos hysbysebion, neu

(ii)parcio cerbydau modur, neu

(iii)offer telathrebu, neu

(iv)peiriant arian awtomatig;

(b)yn cael ei ddefnyddio yn gyfan gwbl neu'n rhannol fel siop gyffredinol neu swyddfa bost; ac

(c)yn eiddo i'r Goron.

Diddymu

5.  Mae Erthygl 3 o Orchymyn Ardrethu Annomestig (Aneddiadau Gwledig) (Cymru) 1998(7) wedi'i ddiddymu.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(8).

John Marek

Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

13 Chwefror 2002

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

O dan adran 42A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1998 (“y Ddeddf”), mae'n ofynnol i bob cyngor sir a phob cyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru (“awdurdod bilio”) lunio a chadw rhestr ar gyfer pob blwyddyn daladwy (“rhestr aneddiadau gwledig”) sy'n enwi'r aneddiadau gwledig sydd yn gyfan gwbl neu yn rhannol o fewn ardal yr awdurdod, ac sydd ym marn yr awdurdod heb boblogaeth o fwy na 3,000 ar 31 Rhagfyr yn union cyn dechrau'r flwyddyn ariannol daladwy o dan sylw ac sydd yn y flwyddyn ariannol honno yn gyfan gwbl neu'n rhannol o fewn ardal sydd wedi'i dynodi'n ardal wledig at ddibenion yr adran.

Yr ardaloedd gwledig yng Nghymru sydd wedi'u dynodi at ddibenion adran 42A o'r Ddeddf yw'r rhai a grybwyllir yn yr Atodlen i Orchymyn Ardrethu Annomestig (Aneddiadau Gwledig) (Cymru) 1998 (“Gorchymyn 1998”).

Yn rhinwedd darpariaethau adran 43(6A) a (6B) o'r Ddeddf mae swm taladwy yr ardreth annomestig am ddiwrnod taladwy yn cael ei leihau os yw'r hereditament o dan sylw, ar y diwrnod o dan sylw, o fewn anheddiad a enwyd yn rhestr yr awdurdod bilio o aneddiadau gwledig am y flwyddyn ariannol daladwy ac nad yw gwerth trethiannol yr hereditament a ddangosir yn y rhestr ardrethu annomestig leol ar ddechrau'r flwyddyn honno yn fwy nag unrhyw swm a ragnodir gan orchymyn ac os yw naill ai'r cyfan neu ran o'r hereditament yn cael eu defnyddio ar y diwrnod o dan sylw yn siop gyffredinol gymwys neu yn swyddfa bost gymwys neu os oes unrhyw amodau a ragnodir gan orchymyn wedi'u bodloni.

Yn rhinwedd darpariaethau adran 47(1), (3) a (3A) o'r Ddeddf, gall y swm taladwy ar gyfer diwrnod taladwy gael ei leihau os oes penderfyniad gan yr awdurdod bilio ar waith yn ystod y diwrnod taladwy neu yn ystod cyfnod sy'n cynnwys y diwrnod taladwy, i'r perwyl bod adran 47 yn gymwys mewn perthynas â'r hereditament o dan sylw ac os yw'r hereditament o dan sylw, ar ddiwrnod taladwy, o fewn anheddiad sydd wedi'i enwi yn rhestr aneddiadau gwledig yr awdurdod bilio am y flwyddyn ariannol daladwy y mae'r diwrnod hwnnw yn digwydd ynddi ac os nad yw gwerth trethiannol yr hereditament a ddangosir yn y rhestr ardrethu annomestig leol ar ddechrau'r flwyddyn ariannol daladwy yn fwy nag unrhyw swm a ragnodir gan orchymyn.

Yn ôl Erthygl 3 o Orchymyn 1998, rhagnodir mai £5,000 yw uchafswm y gwerth trethiannol at ddibenion adran 43(6B)(b) a rhagnodir mai £10,000 yw uchafswm y gwerth trethiannol at ddibenion adran 47(3A)(b).

Mae'r Gorchymyn hwn yn diddymu Erthygl 3 o Orchymyn 1998 ac yn rhagnodi mai £9,000 (yn achos tafarn neu orsaf betrol) a £6,000 (mewn unrhyw achos arall) yw'r uchafswm at ddibenion adran 43(6B)(b) ac mai £12,000 yw'r uchafswm at ddibenion adran 47(3A)(b).

Hefyd, mae'r Gorchymyn yn peri bod rhyddhad ardrethi gorfodol ar gael yn ehangach o dan adran 43(6A) drwy ragnodi, at ddibenion adran 43(6B)(c)(ii), yr amodau nad yw hereditament yn cael ei ddefnyddio dim ond i arddangos hysbysebion neu ar gyfer parcio cerbydau modur neu ar gyfer offer telathrebu neu beiriant arian awtomatig ac nad yw'n cael ei ddefnyddio yn gyfan gwbl neu'n rhannol fel siop gyffredinol neu swyddfa bost ac nad yw'n perthyn i'r Goron.

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(5)

2000 p. 26. Gweler adran 4.

(6)

1964 p. 26. Gweler adran 1.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill